Mae cyflogwyr o sawl sector yn ceisio recriwtio pobl dros dro neu’n barhaol yn y cyfnod cyn y Nadolig. Mae’r rolau tymhorol hyn yn ffordd wych o adeiladu’ch CV, gwneud cysylltiadau newydd a dysgu sgiliau newydd. Gall rolau dros dro hefyd arwain at yrfa hollol newydd.
Dyma 5 awgrym da i sicrhau swydd newydd yn y cyfnod cyn y Nadolig a thu hwnt:
1. Rydych yn y lle iawn!
Mae gan HelpSwyddi lawer o wybodaeth i’ch cefnogi wrth chwilio am swydd. Cewch awgrymiadau da ar greu CV arbennig a sut i ragori mewn cyfweliad. O ofal cymdeithasol oedolion i rolau warysau a dosbarthu, mae swyddi ar gael i ymgeisio amdanynt ar hyn o bryd. Edrychwch ar y tudalennau canlynol i gael mwy o wybodaeth am gwmnïau sy’n recriwtio ar hyn o bryd:
2. Canolfan Byd Gwaith
Gall eich Canolfan Byd Gwaith helpu, â gwybodaeth fewnol am gyflogwyr a swyddi gwag yn eich ardal leol. Dilynwch hwy ar Twitter i gael y newyddion diweddaraf, neu siaradwch â’ch Anogwr Gwaith am gymorth ychwanegol.
3. Cyn gwneud cais, ymchwiliwch i’r cyflogwr.
Bydd gwybod am y cwmni yn eich helpu i greu argraff yn y cyfweliad, a bydd yn dangos bod gennych ddiddordeb mewn swydd barhaol.
4. Dangoswch eich uchelgais, arddangoswch yr agwedd gywir ac edrychwch ymlaen.
Mae’n wir y bydd rhai swyddi dros dro yn dod yn barhaol ond hyd yn oed os na wnânt hynny, byddwch yn cael geirda, profiad ymarferol ac enghreifftiau y gallwch eu cymryd i’r cais swydd nesaf.
5. Byddwch yn gyfeillgar, yn broffesiynol ac edrychwch yn daclus bob amser.
Dylech drin swydd dros dro fel cyfweliad estynedig a chymryd eich gwaith o ddifrif, bydd eich meddylfryd a’ch ymrwymiad yn dangos i’ch cyflogwr eich bod yn perthyn yno.