Hybu’ch sgiliau
Meddwl am eich opsiynau gwaith neu hyfforddiant a ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf?
Mae digon o sgiliau a chyfleoedd hyfforddi, yn y swydd ac i ffwrdd o’r swydd. Darganfyddwch fwy am y pethau y gallech eu gwneud ar wefan Skills for Life Yr Adran Addysg.
Hyfforddiant yn y gwaith
Gallwch ddysgu, ennill profiad a chael eich talu gyda hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith i geiswyr gwaith o bob oed. Darganfyddwch fwy am:
- Prentisiaethau – swyddi go iawn sy’n eich galluogi i ennill cyflog tra’ch bod yn dysgu
- Hyfforddeiaethau (Lloegr yn unig) – rhaglen sgiliau yn y gwaith i bobl ifanc yn Lloegr i’ch paratoi am swydd neu brentisiaeth
- Rhaglen academi waith yn y sector (SWAPs) – cyfleoedd i geiswyr gwaith ddysgu sgiliau newydd a chael profiad o weithio mewn diwydiant penodol
Prentisiaethau
- Mae prentisiaeth yn swydd go iawn, gyda chyflog lle rydych chi’n ennill tra byddwch yn dysgu. Byddwch fel pawb arall, gyda chytundeb o waith a gwyliau.
- Mae prentisiaethau ar gael ar gyfer pob oedran. P’un a ydych yn 22 neu 52 oed, os ydych am ddysgu sgiliau newydd yn y swydd, efallai mai prentisiaeth fydd y llwybr gorau i chi.
- Fel prentis rydych yn treulio peth o’ch amser mewn hyfforddiant i ffwrdd o’r swydd, yn aml mewn coleg, prifysgol neu gyda darparwr hyfforddiant lleol. Erbyn diwedd prentisiaeth, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth gywir sydd eu hangen ar gyfer eich gyrfa ddewisedig neu’r camau nesaf.
- Mae yna filoedd o swyddi gwag prentisiaethau i ddewis ohonynt ac mae rhai’n cynnwys cymhwyster, fel gradd.
- Mae cyfleoedd mewn llawer o wahanol ddiwydiannau, gyda chyflogwyr mawr a bach.
I fod yn brentis rhaid bod yn 16 oed neu’n hŷn a pheidio â bod mewn addysg llawn amser.
- Gallwch ymgymryd â phrentisiaeth p’un a ydych chi’n dechrau yn eich gyrfa, yn newid rolau neu rydych chi’n uwchsgilio yn eich swydd bresennol.
- Gallwch hefyd wneud cais am brentisiaeth tra byddwch yn dal yn yr ysgol, ond bydd angen i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn ac wedi gorffen eich arholiadau blwyddyn 11 cyn i chi ddechrau’r brentisiaeth.
Chwiliwch a gwnewch gais am brentisiaeth yn agos atoch chi yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.
Prentisiaethau Cychwyn Gyrfa
- Mae digon o brentisiaethau yn gweddu’n berffaith i berson ifanc sy’n gadael addysg llawn amser. Ewch i Prentisiaethau Cychwyn Gyrfa i weld rhai o’r cyfleoedd hyn.
- Os na allwch ddod o hyd i Brentisiaeth Cychwyn Gyrfa yr ydych yn ei hoffi, gallwch chwilio pob prentisiaeth gan fod y rhan fwyaf o brentisiaethau yn gamau cyntaf gwych i’w cymryd ar ôl i chi adael yr ysgol.
Hyfforddeiaethau (Lloegr yn unig)
- Rhaglen datblygu sgiliau yn y gwaith sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc yn Lloegr sy’n eich paratoi am swydd neu brentisiaeth yw hyfforddeiaeth.
- Mae hyfforddeiaethau’n cyfuno cymysgedd o ddysgu yn y dosbarth gyda lleoliad profiad gwaith mewn gweithle go iawn. Gall bara o 6 wythnos hyd at flwyddyn, er bod y rhan fwyaf o hyfforddeiaethau yn para am lai na 6 mis.
- Mae hyfforddeion yn ennill amrywiaeth eang o sgiliau, datblygiad personol a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys cymorth i ddod o hyd i swydd, adeiladu CV, a sgiliau cyfweld. Byddwch hefyd yn cael help gyda Saesneg, mathemateg a sgiliau digidol sylfaenol (os oes ei angen arnoch).
- Gyda chefnogaeth tîm o arbenigwyr, byddwch yn derbyn cyngor gyrfaoedd personol i’ch helpu i deimlo’n hyderus i wneud eich cam nesaf i fyd gwaith.
- Ni fyddwch yn cael eich talu, ond efallai y byddwch yn cael treuliau ar gyfer pethau fel teithio a phrydau bwyd.
- Gallwch wneud cais os ydych:
- yn gymwys i weithio yn Lloegr
- ar fin gadael yr ysgol neu’r coleg, neu’n ddi-waith ac nad oes gennych llawer o brofiad gwaith neu ddim profiad gwaith o gwbl
- rhwng 16 a 24 oed a chymwysterau hyd at a gan gynnwys Lefel 3 (sy’n cyfateb i Safon Uwch) neu
- yn 25 oed gyda chynllun addysg, iechyd a gofal (EHC).
Chwiliwch a gwnewch gais am gyfleoedd hyfforddeiaeth yn eich ardal chi.
Rhaglen Academi Gwaith Seiliedig ar Sector
- Mae rhaglen academi gwaith seiliedig ar sector (SWAP) yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd a chael profiad o weithio mewn diwydiant arbennig, er enghraifft gwaith gofal, adeiladu neu warws.
- Nod y rhaglen yw helpu ceiswyr gwaith sy’n hawlio naill ai Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), i fagu hyder, gwella rhagolygon gwaith a gwella CVs.
- Mae SWAPs yn para hyd at chwe wythnos, ac mae ganddynt dair rhan:
- hyfforddiant cyn cyflogi – modiwl byr o hyfforddiant galwedigaethol sy’n cael ei redeg gan goleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol
- profiad gwaith gyda chyflogwr yn y diwydiant, lle gallwch ddysgu sgiliau newydd yn y swydd
- ar ddiwedd y rhaglen, naill ai cyfweliad swydd gyda chyflogwr yn y sector neu os nad oes modd cynnig cyfweliad, help gyda’r broses ymgeisio.
- Byddwch yn parhau i dderbyn budd-daliadau wrth gymryd rhan mewn SWAP, ac os oes angen i chi deithio i fan gwaith y cyflogwr neu i ble mae’r hyfforddiant yn cael ei gynnal, efallai y gallwch dderbyn help gyda chost trafnidiaeth gyhoeddus neu ofal plant priodol.
- Bwriad y rhaglen yw helpu i wella rhagolygon swyddi a helpu cyflogwyr i lenwi swyddi, gan fod pob SWAP yn gysylltiedig ag un neu fwy o swyddi go iawn.
- Er nad ydych yn sicr o gael swydd ar ôl cwblhau SWAP, mae’n eich helpu i wella’ch cyfle o gael gwaith yn y sector hwnnw.
- Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn SWAP, bydd angen i chi siarad â’ch anogwr gwaith, a fydd yn trafod y math o gyfleoedd sydd ar gael yn eich ardal leol ac os yw SWAP yn iawn i chi.
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth, gan gynnwys cymhwysedd a gofynion ar wefan gov.uk.
Llwybrau eraill i gyflogaeth fedrus
Lefelau T (Lloegr yn unig)
- Meddwl am beth i’w wneud ar ôl TGAU? Mae Lefelau T yn gymwysterau technegol y gallwch ddewis yn lle Safon Uwch, cyrsiau ôl-16 eraill neu brentisiaeth.
- Mae Un Lefel T yn cymryd 2 flynedd o astudio llawn amser ac mae’n cyfateb i 3 Safon Uwch.
- Ar hyn o bryd, mae 10 cwrs Lefel T y gallwch wneud cais amdanynt mewn ysgolion a cholegau dethol yn Lloegr. Bydd mwy o Lefelau T yn dod yn fuan, gyda mwy nag 20 pwnc ar gael yn y dyfodol, sy’n cwmpasu popeth o amaethyddiaeth i arlwyo, peirianneg a gwyddoniaeth.
- Mae Lefelau T yn dod â dysgu yn y dosbarth a lleoliad diwydiannol estynedig ynghyd ar gwrs sydd wedi’i gyd-ddylunio â chyflogwyr er mwyn i chi fod yn hyderus y bydd y sgiliau rydych chi’n eu dysgu yn eich helpu i gael swydd.
- Byddwch yn treulio 80% o’ch amser yn yr ystafell ddosbarth a 20% ar leoliad diwydiant gyda chyflogwr fel eich bod yn cael dysgu’r sgiliau a’r wybodaeth y mae cwmnïau’n chwilio amdanynt.
- Bydd Lefelau T hefyd yn caniatáu i chi symud ymlaen i brentisiaethau lefel uwch neu astudiaeth bellach fel prifysgol.
I ddysgu mwy ac i chwilio am Lefelau T yn eich ardal ewch i wefan Lefelau T.
Mwy o opsiynau
- Ewch i’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol i archwilio gwahanol yrfaoedd, cymharu’ch opsiynau hyfforddi a chael mwy o gyngor a chefnogaeth.
- Gall gwefan Skills for Life yr Adran addysg eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd a chymwysterau dysgu newydd i gefnogi eich chwiliad swydd.