Neidio i’r cynnwys
Anogwr Gwaith DWP yn gwenu mewn Canolfan Byd Gwaith

Anogwyr Gwaith

Gyda Chredyd Cynhwysol gall anogwr gwaith eich helpu os ydych chi'n paratoi ar gyfer gwaith, symud i waith neu geisio cynyddu eich enillion.

Pan fyddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol, bydd un o’n anogwyr gwaith yn cynnig cefnogaeth wedi’i deilwra i chi er mwyn gwella’ch cyfle o ddod o hyd i waith.

Yn ystod wythnosau cyntaf eich cais Credyd Cynhwysol fe welwch eich anogwr gwaith yn wythnosol. Byddant yn dod i’ch adnabod chi, eich profiad a’ch sgiliau a deall pa gyngor a chefnogaeth y gall fod angen arnoch fel y gallant eich helpu i’ch symud i mewn i waith.

Mae staff y ganolfan waith yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr lleol i’w helpu i lenwi eu swyddi gwag.

Bydd eich anogwr gwaith yn:

  • Cytuno â chi yn eich cyfarfod Ymrwymiad Hawlydd yr hyn rydych yn gallu ei wneud o ran chwilio am a dod o hyd i swydd a’n disgwyliadau ohonoch i gyflawni’r cytundeb hwnnw
  • Trafod y farchnad lafur leol, siarad â chi am gyflogwyr yn eich ardal sy’n recriwtio a pha fath o bobl a sgiliau mae’r cyflogwyr hynny’n chwilio am
  • Eich paru â’r swyddi gwag presennol
  • Siarad â chi am sgiliau trosglwyddadwy mynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn eich sgiliau a’ch cyfeirio at hyfforddiant os oes angen
  • Trafod cyflogwyr lleol sy’n cynnig profiad gwaith, neu Raglen academi waith yn seiliedig ar sector (SWAPs) – mae hyn yn ffordd dda o roi cynnig ar sector neu ddiwydiant newydd nad ydych wedi ystyried o’r blaen
  • Eich cynghori am wefannau eraill lle gallwch chwilio am waith.

Mae’r cyngor a chefnogaeth eraill gallwch ddisgwyl yn cynnwys:

Mae cefnogaeth ychwanegol i’ch helpu i symud i waith:

  • Bydd eich anogwr gwaith yn siarad â chi am ‘Gyfrifiadau gwell eich byd’ i’ch helpu i ddeall yr elfen ariannol o gymryd swydd a sut y gallai hyn effeithio ar eich Credyd Cynhwysol
  • Os oes gennych gyflwr iechyd, bydd eich anogwr gwaith yn trafod unrhyw addasiadau rhesymol efallai y bydd angen arnoch i’ch helpu i symud i’r gwaith
  • Efallai y bydd sesiynau grŵp ar gael yn eich ardal leol i drafod peth o’r cymorth uchod.

Gofynnwch i’ch anogwr gwaith am unrhyw gymorth lleol arall sydd ar gael yn eich ardal chi, gan fod gennym lawer o sefydliadau lleol sy’n gweithio’n agos gyda chwsmeriaid Canolfan Byd Gwaith i’ch helpu i oresgyn unrhyw rwystrau a’ch symud i’r gwaith cyn gynted ag y gallwn.