DWP yw’r rheolwr data ar gyfer tudalennau ar y wefan hon. Mae rheolwr data yn penderfynu sut a pham mae data personol yn cael ei brosesu.
Mae ein Siarter Gwybodaeth Bersonol yn egluro sut a pham mae DWP yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol, a’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau. Mae’n cwmpasu’r holl wasanaethau y mae DWP yn eu darparu, ac nid y wefan hon yn unig.
Os byddwch yn dilyn y ddolen i wasanaeth a ddarperir gan adran arall o’r llywodraeth, asiantaeth neu awdurdod lleol, bydd y sefydliad hwnnw:
- Yn rheolydd data
- Yn gyfrifol am brosesau data rydych yn rhannu gyda nhw
- Yn cyhoeddu ac yn rheoli eu hysbysiad preifatrwydd eich hun gyda manylion am sut i gysylltu â nhw
Pa ddata rydym yn ei gasglu ar y safle hwn
Hoffem ddefnyddio cwcis i gynnal gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio’r wefan, a hefyd pa mor effeithiol fu ein hysbysebu. Mae rhagor o wybodaeth am y cwcis rydym yn eu defnyddio, a pham, ar gael ar ein dudalen Gwcis. Gallwch hefyd ddefnyddio’r dudalen hon i rheoli gosodiadau eich cwcis.
Ni fyddem yn storio gwybodaeth na chwcis oni bai eich bod yn rhoi caniatâd i ni. Nid ydym yn storio unrhyw wybodaeth bersonol arall.
Ein sail gyfriethiol am brosesu eich data
Y sail gyfreithlon am brosesu data ar gyfer dadansoddeg neu farchnata yw eich caniatâd.
Beth rydym yn ei wneud gyda’ch data
Gellir rhannu’r data a gasglwn ag adrannau eraill y llywodraeth, asiantaethau a chyrff cyhoeddus. Efallai y bydd hefyd yn cael ei rannu gyda’n cyflenwyr technoleg, er enghraifft ein darparwr cynnal.
Ni fyddwn yn gwerthu nac yn rhentu’ch data i drydydd partïon.
Am ba gyfnod rydym yn cadw eich data
Bydd eich data cwcis yn cael ei storio o dan bolisi preifatrwydd y darparwyr gwasanaeth a ddefnyddiwn. Gallwch ddod o hyd i restr o gwcis a ddefnyddiwyd gennym, ac am ba gyfnod y cânt eu storio ar ein tudalen gwcis. Gallwch reoli gosodiadau cwcis unrhyw bryd.
Lle mae’ch data’n cael ei brosesu a’i storio
Gellir trosglwyddo data a gesglir at ddibenion dadansoddeg neu farchnata y tu allan i’r AEE i’w brosesu gan y darparwr gwasanaeth.
Eich hawliau
Ni fyddwn yn gosod cwcis dadansoddeg na marchnata heb eich caniatâd. Gallwch reoli eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd.
Dolenni i wefannau eraill
Mae jobhelp.dwp.gov.uk yn cynnwys dolenni i wefannau eraill.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r wefan hon yn unig, ac nid yw’n cynnwys gwasanaethau a thrafodion eraill y llywodraeth yr ydym yn cysylltu â nhw. Mae gan y gwasanaethau hyn eu telerau ac amodau a’u polisïau preifatrwydd eu hunain.
Os byddwch yn cyrraedd jobhelp.dwp.gov.uk o wefan arall, efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth bersonol o’r wefan arall. Dylech ddarllen polisi preifatrwydd y wefan y daethoch ohoni i ddarganfod mwy am hyn.
Ymholiadau neu gwynion
Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiwn am unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Mae’r Swyddog Diogelu Data yn darparu cyngor annibynnol a monitro ein defnydd o wybodaeth bersonol. Gallwch gysylltu â nhw trwy e-bost yn data.protectionofficer@dwp.gov.uk neu yn:
DWP Data Protection Team
Benton Park View 6
Room BP6001
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1ZX
Gallwch hefyd wneud cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol.
Ffôn: 0303 123 1113
Ffôn testun: 01625 545860
Dydd Llun i dddydd Gwwner, 9am i 4:30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Newididau i’r polisi hwn
Efallai y byddwn yn newid y polisi preifatrwydd hwn. Yn yr achos hwnnw, bydd y dyddiad ‘diweddaru diwethaf’ ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a’ch data ar unwaith.