Neidio i’r cynnwys

AWGRYMIADAU AR GYFER LLWYDDIANT MEWN CYFWELIAD

Felly, mae eich CV gwych neu ffurflen gais anhygoel wedi cael cyfweliad i chi. Da iawn!

P’un a yw’n wyneb yn wyneb, ar-lein, dros y ffôn neu wedi’i recordio ymlaen llaw, gall cyfweliad swydd fod yn brofiad brawychus. Ond cofiwch, mae’n gyfle i chi ddangos eich sgiliau a’ch rhinweddau yn y golau gorau.

Rydym wedi llunio rhai awgrymiadau cyfweld gan ein anogwyr gwaith Canolfan Byd Gwaith.

CYN Y CYFWELIAD

Cynlluniwch eich taith

  • Cynlluniwch eich taith i gyfweliad wyneb yn wyneb a chaniatewch amser ychwanegol ar gyfer unrhyw oedi annisgwyl. Os nad yw’r amseru’n gweithio, gwnewch gyswllt cwrtais i esbonio.
  • Cymerwch rif ffôn y cyfwelydd gyda chi pan fyddwch chi’n dechrau ar eich taith, rhag ofn y bydd angen i chi eu rhybuddio i broblemau teithio annisgwyl ac anochel.

Profwch eich technoleg

  • Ar gyfer cyfweliadau ar-lein neu ffôn, eich lle chi yw sicrhau bod eich technoleg yn gweithio. Gwiriwch bod eich meic, seinyddion, a wi-fi yn gweithio a bod gennych unrhyw apiau hanfodol. Dylech geisio profi ymlaen llaw.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych le tawel i chi’ch hun ar gyfer y cyfweliad, heb ymyrraeth gan weithgareddau cartref, clychau drysau, teulu, anifeiliaid anwes, neu negeseuon testun.

Gwiriwch eich proffil ar-lein

  • Meddyliwch sut mae eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn edrych i rywun o’r tu allan. Mae cyflogwyr yn aml yn eich gwirio ar-lein cyn cynnig swydd.
  • Gallai uwchraddio eich gosodiadau preifatrwydd cyn gwneud cais atal gwylio diangen.

Ymchwiliwch y cyflogwr

  • Ewch i mewn i’r cyfweliad gyda gwybodaeth dda o’r cwmni. Mae’n rhoi hyder i chi ac yn dweud wrth y cyflogwr eich bod o ddifrif am y swydd.
  • Dysgwch am hanes y cyflogwr, beth maent yn gwneud a beth maent wedi’i gyflawni, unrhyw newyddion neu ymgyrchoedd cyfredol, a phwy yw ei gystadleuwyr neu bartneriaid.
  • Crewch rhestr o bwyntiau allweddol y gallwch gael cipolwg yn gyflym arnynt os ydych yn cael trafferth. Bydd yn eich helpu i wneud atebion eich cyfweliad yn fwy perthnasol i’r cyflogwr.

Meddyliwch am y cwestiynau

  • Edrychwch eto ar yr hysbyseb swydd i atgoffa eich hun beth mae’r cyflogwr yn chwilio amdano.
  • Edrychwch dros eich CV neu’ch ffurflen gais yn wrthrychol – beth fyddech chi’n ei ofyn os mai chi oedd y cyfwelydd?
  • Rhowch gynnig ar chwiliad cyflym ar y rhyngrwyd i helpu i ragweld yr hyn y gellid ei ofyn i chi. Gallwch ddod o hyd i, er enghraifft, fforymau a byrddau trafod yn ymwneud â phrofiadau pobl eraill wrth ymweld â’r cwmni.

Mae gan wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol restr o’r deg prif gwestiynau cyfweliad yma.

 

Paratowch eich atebion

  • Treuliwch beth amser yn meddwl am yr atebion neu’r enghreifftiau y gallech eu rhoi i arddangos eich sgiliau orau.
  • Defnyddiwch y dull cyfweld STAR, sy’n sefyll am Situation-Task-Action-Result. Bydd darparu enghreifftiau go iawn o adegau pan fyddwch wedi gwneud rhywbeth da yn rhoi dealltwriaeth dda i gyflogwyr o’ch profiad.
  • Gwnewch nodiadau – dim ond ychydig eiriau i’ch atgoffa beth rydych chi am ei ddweud, does dim angen ysgrifennu brawddegau llawn.

Mae gan wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol fwy am y dull cyfweld STAR.

Ymarferwch eich atebion

  • Ymarferwch eich ymatebion. Waeth pa mor hyderus ydych chi, gall nerfau gael y gorau o unrhyw un unwaith maen nhw mewn sefyllfa cyfweliad.
  • Ymarferwch ddweud eich atebion yn uchel i ffrind neu aelod o’r teulu neu rowch gynnig ar gyfweliad ffug. Gall wir eich helpu i ddod dros eich nerfau a magu eich hyder.
  • Os ydych chi’n gyfforddus â galwadau ar-lein, rhowch gynnig ar ffilmio eich hun gan roi atebion i’r cwestiynau mwyaf tebygol.

Gwisgwch i greu argraff

  • Meddyliwch daclus, glân a phroffesiynol. Mae llawer o godau gwisg yn y gweithle yn gwahardd jîns, dillad chwaraeon, esgidiau ymarfer neu ddillad gyda sloganau. Cynghorir chi i beidio â gwisgo gormod o gemwaith a phersawr hefyd.
  • Dylech bob amser gael dillad cyfweliad addas yn barod gartref rhag ofn eich bod yn cael gwahoddiad annisgwyl i gyfweliad. Rhowch gynnig arnynt a symudwch o gwmpas ynddynt i sicrhau eu bod yn dal i’ch ffitio chi.
  • Dylech chi bob amser feddwl am sut rydych wedi gwisgo p’un a yw’ch cyfweliad mewn person neu ar-lein.
  • Edrychwch ar y polisi mwgwd wyneb lle rydych chi’n cael eich cyfweld. Neu cymerwch fwgwd wyneb rhag ofn.

Cymryd ffurflenni

  • Cariwch gopi sbâr o’ch CV neu’ch ffurflen gais. Efallai y bydd ei angen arnoch os yw cyfwelydd yn gofyn rhywbeth penodol i chi amdano. Mae cael un sbâr i’w gynnig iddynt os ydynt ei angen yn dangos eich bod wedi paratoi, yn drefnus ac yn ystyriol.
  • Cofiwch gymryd unrhyw ddogfennau eraill y gallai’r cyflogwr fod wedi gofyn amdanynt, fel ffoto-ID neu dystysgrifau a sicrhewch eich bod yn gwybod eich Rhif Yswiriant Gwladol.

YN Y CYFWELIAD

Byddwch yn ymwybodol o’ch iaith gorfforol

  • Mae’r hyn rydych chi’n ei ddweud a pha mor hyderus rydych chi’n ei ddweud yn bwysig mewn unrhyw gyfweliad, ond gallai hyn gael ei golli os yw’ch iaith gorfforol yn gwrth-ddweud.
  • Bydd ambell anadl ddofn cyn mynd i mewn yn tawelu eich nerfau a chyfradd curiad y galon.
  • Gwnewch gyswllt llygad, gwenwch ac eisteddwch yn unionsyth.
  • Byddwch yn rhoi sicrwydd i’r cyfwelydd eich bod yn gwrando drwy nodio i gydnabod eich dealltwriaeth.
  • Gwyliwch allan am iaith gorfforol drwg, fel slofi, syllu i’r awyr neu fod yn aflonudd.

Peidiwch â chynhyrfu

  • Mae’n iawn dod â neu ofyn am ddiod o ddŵr cyn i’r cyfweliad ddechrau.
  • Wrth i’r cyfweliad fynd yn ei flaen, gadewch amser i’ch hun feddwl cyn ateb pob cwestiwn. Mae cymryd anadl yn arafu cyflymder siarad a’n rhoi eiliad i chi gael eich meddyliau at ei gilydd. Efallai bydd hyn yn eich helpu i wneud eich pwyntiau’n glir, ac osgoi migno geiriau.
  • Defnyddiwch ymadroddion i brynu amser i feddwl. Er enghraifft, gall dweud ‘mae hwnna’n gwestiwn diddorol iawn, alla i gymryd eiliad i feddwl amdano?’ roi amser i chi dawelu eich meddyliau a geirio’ch ateb yn glir.
  • Peidiwch â bod ofn dweud efallai bod yna rai sgiliau nad oes gennych chi eto. Os byddwch yn esbonio eich bod yn awyddus i ddysgu mae cyflogwyr yn aml yn hapus i’ch hyfforddi.

 Gofynnwch gwestiynau

  • Mae’n iawn gofyn i’ch cyfwelydd ailadrodd neu aralleirio cwestiwn nad ydych wedi ei ddeall.
  • Sicrhewch fod gennych gwestiwn i ofyn i’r cyfwelydd ar y diwedd. Os na allwch chi feddwl am unrhyw un, mae awgrymiadau’n cynnwys sut bydd gwaith yn edrych o ddydd i ddydd, beth yw’r cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygu, neu beth ydy’r cyfwelydd yn ei hoffi am weithio yno.
  • Mae’n rhesymol gofyn pryd a sut dylech chi ddisgwyl clywed penderfyniad y cyfwelydd.

AR ÔL Y CYFWELIAD

Byddwch yn gwrtais a’n amyneddgar

  • Gallech orfod aros eithaf hir i glywed gan y cyflogwr. Bydd yn dibynnu ar faint o bobl maent yn eu gweld.
  • Mae e-bost byr a chyfeillgar ar hyd llinellau ‘diolch am fy ngweld i, gobeithio clywed gennych yn fuan’ y diwrnod ar ôl y cyfweliad yn gwrtais ac yn cadarnhau eich diddordeb. Does dim angen ei ddilyn i fyny gydag e-byst pellach.
  • Ceisiwch osgoi eu galw nes eu bod wedi cysylltu â chi.

Derbyn cynnig swydd yn brydlon 

  • Os cewch gynnig y swydd, anfonwch eich derbyniad yn ysgrifenedig (mae e-bost yn aml yn iawn). Fel arfer mae’n iawn dilyn hyn i fyny drwy ffôn i drafod ymarferoldeb dechrau’r swydd.

Gofyn am adborth

  • Os nad ydych yn cael cynnig y swydd, gofynnwch am adborth.
  • Gall gwybod beth allech chi ei wella helpu eich chwiliad swydd. Gallai fod yn bosib y gall rhywfaint o brofiad gwaith, hyfforddiant ar-lein neu fwy o ymarfer cyfweliad fod yn allweddol i sicrhau’r rôl nesaf.
  • Gall adborth helpu eich hyder hefyd, os ydych chi’n darganfod beth wnaethoch chi’n dda a beth roedd y cyfwelwyr yn ei hoffi yn eich cyfweliad.

Darganfyddwch fwy

Os ydych chi eisiau cymorth pellach gyda chyfweliadau, mae gan LifeSkills, a grëwyd gyda Barclays, fodiwl sy’n cwmpasu pwrpas cyfweliadau swydd a’r broses o baratoi ar gyfer un. Ewch i wefan LifeSkills i ddarganfod mwy.

Mae canllaw cam wrth gam i’r broses gyfweld ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol.

Chwiliwch am y gwasanaethau sydd ar gael drwy wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol (Lloegr), gwefan Gyrfa Cymru (Cymru), neu wefan My World of Work (Yr Alban).