Hygyrchedd
Datganiad Hygyrchedd ar gyfer jobhelp.dwp.gov.uk
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i jobhelp.dwp.gov.uk yn unig
Defnyddio’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan Wasanaeth Digidol yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym eisiau gymaint o bobl â phosib i fod yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn.
Er engraifft, mae hyn yn golygu dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau drwy ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
- chwyddo hyd at 400% heb i’r ysgrifen dywallt oddi ar y sgrin
- llywio’r wefan gyfan drwy ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y wefan gyfan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn hawsach i’w ddefnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth hwn
Rydym yn defnyddio’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) v2.1 lefel A a lefel AA i brofi pa mor hygyrch yw tudalennau gwe a gwefannau DWP Digidol,
Profwyd y wefan hon ddiwethaf 17 Hydref 2023. Profwyd y wefan hon gan ddefnyddio’r technolegau cynorthwyol canlynol:
- Windows – Chrome / JAWS
- Windows – Firefox / NVDA
- Windows – Chrome / Dragon
- Windows – Magnifier
- MacOS – Safari / VoiceOver
- MacOS – Zoom
Gweithdrefn gorfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi y Rheoleiddiau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Meddalweddau Symudol) (Rhif. 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda ein ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae DWP wedi ymrwymo i wneud y wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llwyr gyda safon AA 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.
Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datgniad yma ei baratoi ar 10 Gorffennaf 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 23 Hydref 2023.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 17 Hydref 2023. Cynhaliwyd y prawf gan Nomensa gan ddefnyddio’r technolegau cynorthwyol canlynol: JAWS (darllenydd sgrin), NVDA (darllenydd sgrin), Dragon (adnabod lleferydd), VoiceOver Windows Magnifier (chwyddwr sgrin) ac Apple Zoom (chwyddwr sgrin)