Neidio i’r cynnwys

Cefnogaeth Canolfan Byd Gwaith

Gall cymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith eich helpu i baratoi ar gyfer, dod o hyd i ac aros mewn gwaith.

Beth all eich Canolfan Byd Gwaith leol ei wneud i chi

Beth bynnag fo’ch amgylchiadau unigol, mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig ystod eang o wasanaethau: 

  • Help i baratoi ar gyfer gwaith, gan gynnwys hyfforddiant, arweiniad, rhaglenni lleoliadau gwaith, profiad gwaith, gwirfoddoli a chynlluniau treialu swyddi 
  • Help chwilio am swyddi, gan gynnwys cyngor ar greu neu wella eich CV, help gyda thechnegau cyfweld ac ardaloedd cwsmeriaid gyda chyfrifiaduron y gallwch eu defnyddio i wneud cais am swyddi 
  • Help i ddechrau eich busnes eich hun 
  • Help i aros yn y gwaith a symud ymlaen yn eich swydd, gan gynnwys opsiynau ar gyfer cyfuno gwaith gyda gofalu am blant neu gyfrifoldebau gofalu, cadw rhai budd-daliadau unwaith y byddwch chi’n dechrau gweithio ac arweiniad ar sut i ennill mwy o arian. 

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael anogwr gwaith ymroddedig y byddwch yn ei gyfarfod yn rheolaidd i drafod eich nodau gyrfa, a pha gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnoch i gyflawni eich nodau. 

Dod o hyd i’ch Canolfan Byd Gwaith Leol

Gallwch ddod o hyd i’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol yn y chwiliad swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol. 

Dilyn eich Canolfan Byd Gwaith leol ar Twitter

Os hoffech gael diweddariadau rheolaidd am swyddi, digwyddiadau, cyngor gyrfa a chyfleoedd yn eich ardal, gallwch ddilyn eich Canolfan Byd Gwaith lleol ar Twitter. 

Mae ‘oriau gwaith’ yn rhedeg yn rheolaidd ac yn lle gwych i glywed gan gyflogwyr sy’n recriwtio yn eich ardal chi. Dewch o hyd i a dilynwch eich Canolfan Byd Gwaith lleol ar Twitter ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol swyddogol yr DWP. 

Dolenni defnyddiol eraill

Yn ogystal â’r holl help y gall eich Canolfan Byd Gwaith lleol ei ddarparu, mae llawer o gefnogaeth arall ar-lein, p’un a ydych yn chwilio am swydd ar hyn o bryd, eisiau darganfod pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt, neu os ydych am hybu’ch sgiliau. 

Mewn gwirionedd, os oes gennych anogwr gwaith gallech drafod rhai o’r opsiynau hyn a’u defnyddio gartref ar ôl i chi ymweld â’ch Canolfan Byd Gwaith.

Dod o hyd i Swydd

  • I’ch helpu i chwilio am swydd mae gan Dod o hyd i swydd lwyth o rolau a chyfleoedd yn eich ardal leol. 

Budd-daliadau a chefnogaeth

  • Mae deall pa fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt tra eich bod yn chwilio am waith yn bwysig. Mae ganDeall Credyd Cynhwysol yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. 

Cyrsiau Skills for Life

  • Mae Skills for Life yn darparu amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddi a phecynnau cymorth am ddim i gryfhau eich CV a’ch helpu i ddod o hyd i swydd. 

Cymwysterau Lefel 3

  • Dewch o hyd i restr o golegau a darparwyr hyfforddiant sy’n cynnig lleoedd am ddim ar gyrsiau lefel 3. Dysgwch sgiliau newydd, gweithiwch yn y swydd, ac ennill cymhwyster Safon Uwch (neu gyfwerth) i’ch helpu i ddechrau gyrfa. 

Skills Bootcamps

  • Mae Skills Bootcamps yn cynnig cyrsiau hyblyg, am ddim, o hyd at 16 wythnos sydd wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa. 

Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol

  • Archwiliwch gyrsiau ar-lein am ddim i helpu i ehangu‘ch sgiliau a’ch gwybodaeth, mewn ystod o feysydd. Dewch o hyd i gwrs ar Wasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol. 

Asesiad sgiliau

  • I’ch helpu i ddod o hyd i swydd sy’n cyfateb i’ch sgiliau presennol, beth am gymryd asesiad sgiliau am ddim? Mae’r asesiad yn cynnwys cwestiynau hawdd sy’n gysylltiedig â phrofiad a diddordebau blaenorol.