Neidio i’r cynnwys

Pam y dylech ystyried gweithio mewn amaethyddiaeth

Beekeeper removing honey from beehive.

Mae mwy i weithio ym myd amaethyddiaeth nag y byddwch yn ei feddwl, ac mae’r galw am weithwyr yn uwch nag erioed, gyda gweithwyr fferm a chynhyrchu bwyd yn fwy hanfodol nag erioed.

Dyma 5 peth dylech wybod am weithio mewnamaethyddiaeth:

1. Nid yw’n golygu ffermio yn unig

Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd o fewn amaethyddiaeth o gynaeafu ffrwythau a llysiau hyd at logisteg, cynhyrchu bwyd a rolau rheoli.

2. Arloesedd a thechnoleg

Mae ffermio modern yn defnyddio technoleg flaengar i gadw i fyny gyda’r galw cynyddol. Gallech fod yn rhan o brofi ffyrdd arloesol i ddatrys problemau.

3. Rhagolygon hirdymor da

Mae’r boblogaeth fyd-eang yn ehangu felly mae’r galw am amaethyddiaeth dim ond yn mynd i gynyddu, ac er bod rhai rolau’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion critigol, gall gweithio yn y diwydiant hwn hefyd ddarparu sicrwydd swydd da a gyrfa hirdymor.

4. Nid yw cael profiad yn angenrheidiol

Er y bod angen cymwysterau i rai swyddi, yn aml darperir hyfforddiant yn y swydd. Ond cofiwch y gall rhai rolau fod yn gorfforol anodd.

5. Mwynhewch y gwobrwyon

Nid oes “swyddfa” well na’r awyr agored, ac mae bod ym myd natur wedi ei gysylltu ag iechyd a lles da ers amser maith.

I gael proffiliau swyddi manwl a mwy o gyngor ar sut i gael swydd ym maes amaethyddiaeth ewch i wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol.

Am astudiaethau achos o sut mae pobl wedi mynd i mewn i ffermio ewch i wefan Farmers Weekly.

Gallwch ddod o hyd i swyddi amaethyddiaeth ar y wefan Dod o hyd i swydd neu edrychwch ar ein tudalen swyddi gwag diweddaraf.

Erthyglau