Neidio i’r cynnwys

Chwalu pum myth am y sector adeiladu

Man in high visibility vest writing on clipboard

Myth 1: Rydych bob amser yn gweithio allan yn y tywydd oer

Er bod llawer o swyddi ymarferol ar safleoedd, nid yw’r diwydiant adeiladu bob amser yn ymwneud â phobl mewn hetiau caled.

Yn dibynnu ar eich profiad a’ch cymwysterau mae yna gannoedd o swyddi nad ydynt yn golygu eich bod yn cael eich dwylo’n fudr, gan gynnwys rolau rheoli a thechnegol, cynllunwyr a dylunwyr.

Myth 2: Dim ond ‘swyddi i’r bechgyn’ yw adeiladu

Mae’n wir mai dynion yw mwyafrif y bobl sy’n gweithio mewn swyddi adeiladu, ond mae hynny’n newid yn gyflym. Yn y DU, mae 14% o bobl yn y diwydiant yn fenywod – mae hynny dros 320,000 o fenywod. Maent yn gwneud ystod lawn o swyddi o weithio ar y safle i oruchwylwyr a rheolwyr prosiect i beirianwyr.

Gwyliwch stori Elaina a chlywed sut aeth i mewn i adeiladu:

Myth 3: Rwyf wedi graddio, felly nid yw swydd ymarferol i mi

Ar hyn o bryd mae prinder sgiliau yn y diwydiant adeiladu, sy’n gyfle gwych i raddedigion newydd. Mae rheoli prosiectau adeiladu gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer busnes adeiladu yn foddhaus, yn fedrus iawn ac mor addas i rywun sydd wedi bod yn y brifysgol â rhywun nad yw wedi gwneud hynny.

Ac mae rhai cyflogwyr hyd yn oed yn noddi israddedigion wrth iddynt ennill gradd, felly fe allech ddysgu, cymhwyso ac ennill arian i gyd ar yr un pryd, beth sydd ddim i’w hoffi?

Mae gan lawer o gwmnïau adeiladu raglenni datblygu graddedigion a fydd yn eich galluogi i gyflymu’ch ffordd i’r brig.

Myth 4: Mae’n ddiwydiant budr sy’n ddrwg i’r amgylchedd

Mae llawer o swyddi ym maes adeiladu yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd a thechnolegau gwyrdd, sy’n helpu i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei amddiffyn yn ystod ac ar ôl adeiladu.

Gall adeiladau modern gael effaith gadarnhaol ar y gymuned a’r bobl sy’n eu defnyddio. Er enghraifft, gallai ystad dai newydd gynnwys maes chwarae cymunedol neu gampfa i’r holl breswylwyr eu defnyddio.

Mae defnyddio ynni a defnyddio deunyddiau niweidiol, ecoleg, llygredd, gwastraff a rheoli dŵr yn rhai o’r ystyriaethau sy’n mynd i mewn i ddyluniad adeilad newydd. Er enghraifft, defnyddio paneli solar i leihau’r defnydd o ynni a biliau.

Myth 5: Mae’n ddiwydiant hen ffasiwn a thraddodiadol

Mae adeiladu yn ddiwydiant cyffrous sydd ar flaen y gad o ran technolegau newydd.

Mae adeiladu modern yn datblygu ac yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys modelu cyfrifiadurol 3D, dronau arolygu a nanotechnoleg i ddatblygu deunyddiau newydd.

Mae dulliau a deunyddiau adeiladu yn datblygu’n gyson, er bod dulliau traddodiadol o adeiladu, fel gwaith maen a gwellt, yn hanfodol i gynnal adeiladau rhestredig hŷn.

Lle nesaf

Darganfyddwch sut brofiad yw hi mewn gwirionedd gan bobl sy’n gweithio yn y sector, darllenwch rai astudiaethau achos ar wefan Go Construct.

Gallwch hefyd edrych ar y deg swydd orau ym maes adeiladu nad ydych efallai wedi’u hystyried ar wefan Go Construct.

Erthyglau