Neidio i’r cynnwys
Tractor bailing hay

Amaethyddiaeth

Mae mwy i weithio ym myd amaethyddiaeth nag y byddech yn ei feddwl. Gyda nifer y swyddi gwag ar eu huchaf erioed, mae nawr yn amser gwych i wneud cais. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn cynhyrchu bwyd, cynaeafu cnydau, logisteg neu reoli, gallai fod swydd yn aros amdanoch, waeth beth yw eich sgiliau neu'ch cefndir.

Mathau o swyddi

Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd o fewn amaethyddiaeth o gynaeafu ffrwythau a llysiau hyd at logisteg, cynhyrchu bwyd a swyddi rheoli.

Mae ffermio modern yn defnyddio technoleg flaengar i gadw i fyny â’r galw cynyddol. Gallech fod yn rhan o brofi ffyrdd arloesol i ddatrys problemau.

Bydd angen i chi fod yn ffit yn gorfforol gan y byddwch yn gweithio ar eich traed trwy’r dydd, ym mhob tywydd.

Ar rai adegau o’r flwyddyn efallai y gofynnir i chi weithio diwrnodau hir, ond yn gyffredinol gallwch ennill goramser am hyn. Gall eich oriau hyblyg gynnwys penwythnosau.

Oherwydd yr oriau hyn, bydd angen i chi fyw’n agos at, neu mewn rhai achosion byw ar y fferm lle rydych yn gweithio, ond bydd hyn yn amrywio rhwng swyddi a gallwch drafod hyn gyda’r fferm rydych yn gwneud cais iddi.

Mae llawer o’r gwaith yn frwnt felly bydd angen i chi wisgo dillad amddiffynnol addas.

Gallwch ddisgwyl ennill unrhyw le rhwng £12k a £18k y flwyddyn gan godi i fwy na £23k wrth i chi gynyddu eich sgiliau a’ch profiad, a chymryd mwy o gyfrifoldebau.

Efallai y cewch hefyd lety a allai fod am ddim neu’n rhad iawn.

Buddion gweithio mewn amaethyddiaeth

  • O godwyr ffrwythau a phacwyr, i hwsmonaeth blanhigion a gyrrwr tryc fforch godi, mae ystod eang o swyddi ar gael ledled y DU.
  • Nid oes “swyddfa” well na’r awyr agored a chyslltwyd bod mewn natur ag iechyd meddwl a lles da ers amser maith.
  • Mae’r mwyafrif o ffermydd yn chwilio am weithwyr llawn amser, ond mae pob fferm yn wahanol felly gofynnwch i’r cyflogwr pa hyblygrwydd y gallant ei gynnig.
  • Mae’r boblogaeth fyd-eang yn ehangu felly mae’r galw am amaethyddiaeth yn mynd i gynyddu, ac er bod rhai swyddi’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion critigol, gall gweithio yn y diwydiant hwn hefyd ddarparu sicrwydd swydd dda a gyrfa tymor hir.
Llaw yn dal bwced o afalau wedi’u casglu

Sgiliau dymunol

​Mae yna lawer o sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swyddi mewn amaethyddiaeth, gan gynnwys y gallu i weithio’n dda gydag eraill, sylw i fanylion, sgiliau corfforol fel symud, cydgysylltu a medrusrwydd yn ogystal â sgiliau cyfathrebu llafar rhagorol.

CYMORTH OS OES GENNYCH ANABLEDD NEU GYFLWR IECHYD HIRDYMOR

Mae llawer o gyflogwyr yn y sector hwn yn aelodau o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Mae hyn yn golygu eu bod wedi ymrwymo i gamau gweithredu a fydd yn darparu cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwaith i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol. Gallwch chwilio am swydd gyda chyflogwr Hyderus o ran Anabledd ar Dod o hyd i swydd.

Gall Mynediad i Waith dalu tuag at y costau am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd ac efallai y gall ddarparu cymorth ymarferol neu iechyd meddwl parhaus pan fyddwch yn cael swydd. I gael gwybod a ydych yn gymwys, edrychwch ar y canllawiau diweddaraf.

Gweithio'n ddiogel yn ystod Coronafeirws

Darganfyddwch sut i leihau'r risg o ledu COVID-19 yn eich gweithle.

Ewch i'r safle

Erthyglau

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd