Neidio i’r cynnwys

Swyddi lefel mynediad a sut i ddod o hyd iddynt

Cyn cychwyn ar eich chwiliad gwaith, byddwch yn glir pa fath o rôl fydd yn gweddu i’ch lefel addysg, diddordebau, sgiliau, gwerthoedd a phersonoliaeth, ewch i wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol i gael mwy o fanylion. Gallwch hefyd gymryd yr holiadur Skills health check ar wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol i helpu i nodi pa grwpiau swyddi a allai fod yn addas i chi.

Cadwch lygad am y bathodyn cyflogwr sy’n gyfeillgar i ieuenctid, mae hyn yn eich helpu i wybod pa sefydliadau sy’n helpu ac yn datblygu pobl ifanc yn broffesiynol ac yn bersonol. Darganfyddwch fwy ar wefan Youth Employment UK.

Beth i edrych am

Mae gan y wefan Youth Employment UK hefyd dudalen gyrfa defnyddiol i’ch helpu ddechrau arni.

Mae swyddi lefel mynediad yn swyddi sy’n tueddi i ofyn am lai o brofiad a chyfrifoldeb. Ond cofiwch eich amcanion gyrfa hefyd – gall swyddi lefel mynediad fod yn gam gwych i swydd well.

Os yw cyflog yn ffactor pwysig, mae gwefan Glassdoor yn rhestru’r 10 swydd lefel mynediad sy’n talu orau  y gallwch eu hystyried.

Sut i adnabod swyddi lefel mynediad…

1. Cael cyngor gan eich gwasanaeth gyrfaoedd

Y cam cyntaf yw siarad â gwasanaeth gyrfaoedd eich ysgol, coleg, chweched dosbarth, neu sefydliad. Bydd y staff yn hapus i’ch helpu bob cam o’r proses chwilio am swydd. Yn aml bydd ganddynt gysylltiadau i gyflogwyr lleol sy’n edrych am fyfyrwyr fel chi a byddant yn darparu cyngor ar eich ceisiadau.


2. Cofrestru ar y 10 gwefan swyddi blaenllaw

Dylech greu proffil a chofrestru am hysbysiadau swyddi ar brif safleoedd swyddi yn y DU gwefannau Career Experts. Gallwch hefyd chwilio am swyddi lefel mynediad a swyddi graddedigion ar wasanaeth Dod o hyd i Swydd.


3. Register on student recruitment sites

Dylech greu proffil a chofrestru am hysbysiadau swyddi ar wefannau recriwtio arbenigol fel gwefan Fledglink, gwefan e4s , gwefan Student Job, a gwefan Milkround lle cewch hyd i swyddi gwag i bobl sy’n gadael yr ysgol a phrifysgol.


4. Ymuno â gwefan rhwydweithio proffesiynol

Dylech greu proffil ar wefan rhwydweithio proffesiynol LinkedIn  a chwilio am swyddi lefel mynediad. Dylech rwydweithio â ffrindiau a chysylltiadau i ddod i wybod am swyddi lefel mynediad mewn cwmnïau.


5. Edrych ar wefannau prif gyflogwyr

Mae gan llawer o gyflogwyr gynlluniau hyfforddi graddedigion, interniaethau, a phrentisiaethau uwch mewn lle i nifer o swyddi o fewn sectorau gwahanol. Edrychwch ar eu gwefannau’n uniongyrchol. Gallwch ddechrau chwilio trwy edrych ar restr 100 cyflogwyr blaenllaw i raddedigion y Times.

 

Erthyglau perthnasol