Neidio i’r cynnwys

Cynllun Kickstart

Os ydych chi'n 16-24 oed ac yn hawlio Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch gael swydd chwe mis gyda chyflogwr lleol trwy'r Cynllun Kickstart. Ariennir swyddi Kickstart gan y Llywodraeth i gynnig cyfleoedd cyffrous i bobl ifanc ennill profiad gwaith gwerthfawr.

Ar gael I:

Mae Cynllun Kickstart yn agored i bobl rhwng 16 a 24 oed sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o ddiweithdra tymor hir. Os yw hyn yn swnio fel chi, siaradwch â'ch Anogwr Gwaith am Kickstart i weld a allai fod yn iawn i chi.

Hyd:

Chwe mis

Lleoliad:

Cymru, Lloegr, Yr Alban

Cyfyngiad Oed:

16-24

Sut I wneud cais:

Mae miloedd o swyddi Cynllun Kickstart ar gael ar hyn o bryd. Siaradwch â'ch Anogwr Gwaith i ddarganfod mwy am y swyddi gwag Kickstart lleol a sut i wneud cais. Gallwch hefyd chwilio am swyddi gwag presennol Kickstart ar Dod o hyd i Swydd.

Beth allai Kickstart ei gynnig i chi?

Mae Kickstart yn gyfle gwych. Nid yn unig y mae’n rhoi mynediad i chi i swydd â thâl chwe mis, byddwch hefyd yn cael profiad gwerthfawr i adeiladu’ch CV, cefnogaeth ychwanegol i hybu eich rhagolygon swydd yn y dyfodol a helpu i ddechrau eich gyrfa.

Mae cyllid ar gyfer swyddi Kickstart yn cwmpasu 25 awr yr wythnos ac yn talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dibynnu ar eich oedran. Fe’ch telir gan eich cyflogwr ac yn dibynnu ar eich amgylchiad, gallwch barhau i dderbyn Credyd Cynhwysol unwaith y byddwch yn dechrau gweithio. Darganfyddwch fwy am sut mae’ch enillion yn effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol.

"Rwyf yn dysgu sgiliau ac ennill profiad mewn swydd rwy'n ei garu diolch i Kickstart"

James, HOP'T Sauce

Pa fath o swyddi sydd ar gael?

Mae miloedd o swyddi Kickstart ar gael, ledled y wlad ac mewn ystod o wahanol sectorau. P’un a ydych chi’n gweld eich hun yn gweithio ym maes technoleg a digidol, manwerthu, peirianneg, cyfreithiol, marchnata, neu rywbeth arall yn gyfan gwbl, gallai fod swydd Kickstart yn addas i chi.

Gallwch edrych ar swyddi gwag Kickstart cyfredol trwy ein tudalen Dod o hyd i Swydd. Mae’n gyflym, yn syml ac nid oes angen i chi gofrestru i ddefnyddio’r wefan. Yn syml, chwiliwch am ‘Kickstart’ a defnyddiwch yr hidlwyr i leihau eich chwiliad, fel y mathau o swyddi sydd ar gael neu leoliad y swyddi gwag.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n siarad â’ch Anogwr Gwaith i ddarganfod am y cyfleoedd lleol a allai fod ar gael i chi.

Erthyglau perthnasol