Neidio i’r cynnwys

5 prif awgrymiad i lansio gyrfa mewn technoleg

Two women discussing electronics in a laboratory

Os ydych yn edrych am yrfa ym mae technoleg, mae gan gwefan Generation UK rai prif awgrymiadau i chi…

1. Archwilio am ddim 

Manteisiwch ar yr adnoddau am ddim sydd ar gael i archwilio’ch diddordeb mewn technoleg. Pam na cheisiwch gyflwyniad i Python ar Codecademy  neu Javascript mewn 3 awr ar FreeCodeCamp.org . Mae hyn yn rhoi cyfle i chi archwilio os dyma’r peth i chi ac yn arddangos i gyflogwyr eich bod yn frwdfrydig i ddilyn gyrfa yn y sector hwn. Mae cyrsiau ar-lein am ddim hefyd ar gael trwy’r The Skills Toolkit ar wefan gov.uk. Mae hwn yn rhoi mynediad i chi i gyrsiau digidol a rhifedd o ansawdd uchel gan ystod o wahanol sefydliadau a all eich helpu i roi hwb i’ch rhagolygon swydd yn y dyfodol.

2. Adeiladu’ch presenoldeb ar-lein

Mae’n debyg bod gennych gyfrif Instagram neu Twitter yn barod, ond, a ydych ar LinkedIn? Mae adeiladu presenoldeb cymdeithasol proffesiynol ar-lein yn bwysig, gan fod rhai cyflogwyr yn ei ddefnyddio i recriwtio, ymchwilio, a sifftio.

3. Rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol ym maes technoleg

Ymunwch â gweminarau, cyfarfodydd, neu ddigwyddiadau yn eich ardal i glywed o lygad y ffynon gan bobl yn y maes sut mae’r swyddi’n edrych yn y byd sydd ohoni  fel gallwch fynd ati i rwydweithio. Mae Eventbrite , London Tech Meetups  a Meet Up  i gyd yn lleoedd da i ddechrau.

4. Cynllunio

Mae gennych flas ar ba swyddi sydd, rydych wedi rhwydweithio, ac mae gennych lygad ar y gyrfa gywir i chi drwy defnyddio cwis “Where do I belong in Tech? ” ar wefan Generation UK. Nawr mae’n amser cynllunio sut byddwch yn cael y cymwysterau a phrofiad sydd eu hangen arnoch i fynd i mewn i’r diwydiant. Mae llawer o lwybrau i mewn – gan gynnwys Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau – felly archwiliwch y rhain hefyd.

5. Dechrau gwneud ceisiadau

Os oes gennych y cymwysterau neu brofiad sydd eu hangen arnoch, edrychwch ar safle swyddi Hackajob  i weld ai dyma’r swydd gywir i chi. Os ydych yn edrych am gyfle i weithio a dysgu ar yr un pryd efallai byddai’n werth archwilio prentisiaethau ar wefan Gov.uk . Ac mae Generation  yn cynnig 4 – 12-wythnos o bootcamps am ddim i’ch helpu wrth uwchsgilio â chyfweliad swydd wedi ei gwarantu ar y diwedd.

Erthyglau