Neidio i’r cynnwys

7 awgrym ar sut i fod yn barod am waith

Woman holding up green top on hanger and smiling.

1. Ewch ar y rhestr VIP

Mae pob un ohonom yn casáu post sbam ond gall rhybuddion cynnar gan recriwtwyr a safleoedd swyddi eich helpu i gael golwg gyntaf ar y swydd holl bwysig honno. Tanysgrifiwch i hysbysiadau swyddi gwag yn eich dewis faes fel na fyddwch yn colli allan.

2. CV llwyddiannus ar gyfer y swydd

Gwiriwch fod eich CV yn gyfredol ac yn barod i’w gyflwyno. Os byddwch yn ymgeisio am swydd mewn sector neu rôl wahanol, tynnwch y sgiliau trosglwyddadwy hynny sy’n dangos bod gennych y wybodaeth a’r agwedd i ffynnu yn y swydd.

3. Byddwch yn glyfar

Manteisiwch i’r eithaf ar hyfforddiant ar-lein i’ch helpu i uwchsgilio neu ailsgilio. Mae gan wefan The Skills Toolkit gyrsiau digidol a rhifedd o ansawdd uchel am ddim gan ystod o ddarparwyr fel Google Digital Garage, y Brifysgol Agored a gwefan Acadami Banc Lloyds.

4. Rhwydweithio, rhwydweithio, rhwydweithio (o bell)

Os nad oes gennych un eisoes, sefydlwch broffil LinkedIn. Sicrhewch fod gennych eich gosodiadau fel bod recriwtwyr yn gwybod eich bod yn chwilio am gyfleoedd fel y gallant estyn allan atoch.

5. Byddwch yn rhan o’r ffair

Mae yna ffeiriau rhithwir gyrfaoedd gwych yn cael eu cynnal a all adeiladu cysylltiadau a rhoi amser i chi wynebu cyflogwyr. Cofiwch fod edrych yn smart yn dal i gyfrif.

6. Proffil cyfryngau cymdeithasol hynod lân

Edrychwch trwy’ch cyfryngau cymdeithasol eich hun a gwiriwch nad oes unrhyw beth na fyddech yn hapus i ddarpar gyflogwr ei weld.

7. Byddwch yn garedig i chi eich hun

Mae’r amseroedd yn anodd, rydym yn gaeth i aros dan do a gall hyrwyddo eich hun a gwneud cais am swyddi fod yn anodd – mae hyn yn normal. Gall deimlo’n ddi-baid ond bydd gwneud y gwaith caled nawr  yn gwbl werth chweil yn y diwedd.

Erthyglau