Neidio i’r cynnwys

5 sgil trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt

Hands sorting written post-it notes and cards on a desk.

Gall sgiliau trosglwyddadwy wneud i chi wir sefyll allan i gyflogwyr, hyd yn oed os nad oes gennych brofiad penodol yn eu diwydiant. Os nad oes gennych brofiad gwaith blaenorol, gellir cael y rhain o hobïau, gwaith gwirfoddol neu hyd yn oed cymryd rhan mewn chwaraeon. Os gallwch fel arfer gael eich hun allan o olchi’r llestri, rydych wedi bod yn ymarfer eich sgiliau dylanwadu yn anfwriadol!

Mae’n debygol y bydd gennych set gyfan o sgiliau gwerthfawr y gallwch ddod gyda chi o un swydd i’r llall.

Mae’n werth gwybod pa sgiliau sydd eu hangen fwyaf ar gyflogwyr fel y gallwch dynnu sylw atynt mewn ceisiadau am swyddi sydd ar ddod. Edrychwch ar y 5 prif sgil y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt (yn ôl arolwg 2019 ar wefan LinkedIn):

1. Creadigrwydd

P’un a ydych yn cynnig syniad newydd, dyfeisgar neu’n dod o hyd i ateb i broblem anodd, gall meddwl y tu allan i’r blwch ac arddangos creadigrwydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn llawer o swyddi.

2. Sgiliau pobl

Mae sgiliau gwrando a dylanwadu da yn wirioneddol werthfawr mewn swyddi gwasanaeth cwsmeriaid a gwerthu.

Mae gweithio fel tîm nid yn unig yn gyrru mwy o gynhyrchiant i’r busnes, ond mae hefyd yn meithrin perthnasoedd iach a chefnogol i’w wneud yn lle gwych i weithio.

3. Addasrwydd

Mae bod yn addasadwy yn golygu eich bod yn gallu ymateb yn gyflym i syniadau, cyfrifoldebau, disgwyliadau a phrosesau eraill sy’n newid yn y gwaith. Mae’n ffordd dda o ddangos eich bod yn hyblyg ac yn awyddus i ddysgu.

4. Arweinyddiaeth

Mae bod yn rhywun sy’n gallu hyfforddi, grymuso a chefnogi’r sawl sydd o’ch cwmpas yn sgil mawr yn y gweithle. Mae’n eich helpu i gael y gorau allan o’r tim rydych yn gweithio ynddo.

5. Rheoli Amser

Mae gallu monitro eich llwyth gwaith a chwrdd a terfyn amser yn sgil bwysig mewn unrhyw swydd ac mae’n eich helpu i wneud y gorau o’ch amser i gyflawni mwy mewn llai o amser.

Pan fyddwch yn gwneud cais nesaf am swydd, dechreuwch trwy wneud rhestr o’r holl ffyrdd rydych wedi meithrin sgiliau trosglwyddadwy, ac esboniwch sut rydych wedi’u defnyddio yn eich CV neu’ch cais am swydd. Efallai y gwelwch fod gyrfa newydd yn agosach nag yr ydych chi’n meddwl.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried ceisio am swyddi mewn diwydiannau hanfodol sy’n ehangu ar hyn o bryd fel logisteg, manwerthu bwyd ac amaethyddiaeth. Mae angen ychydig neu ddim profiad ar lawer o swyddi gwag gyda hyfforddiant yn y swydd.

Gall gwirio rhyngweithiol ar wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol hefyd eich helpu i ystyried swyddi neu yrfaoedd a allai gyd-fynd â’ch sgiliau trosglwyddadwy. Yng Nghymru, edrychwch ar Gyrfa Cymru am wybodaeth pellach. Ac os ydych chi am wella sgiliau digidol neu rifedd, yna edrychwch ar y cyrsiau b yr ar-lein ac am ddim ar wefan Skills Toolkit.

Mae LinkedIn a Microsoft yn cynnig dysgu ar-lein am ddim ar gyfer ystod o swyddi y mae galw amdanynt – gan gynnwys rhaglenwyr, cymorth TG, dylunio a chynrychiolwyr cwsmeriaid. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan LinkedIn.

Mae gan y wefan Google Digital Garage lawer o gyrsiau i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau gyrfa, gan gynnwys ysgrifennu CV, rheoli prosiectau a lles.

Darganfyddwch gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol sut i adnabod sgiliau trosglwyddadwy a gwrando ar enghreifftiau ymarferol o sut y gellid hefyd eu defnyddio mewn swydd.

Erthyglau