Neidio i’r cynnwys
Menyw'n gwenu

Anogwyr Gwaith

Gyda Credyd Cynhwysol rydych fel arfer yn cael anogwr gwaith i’ch helpu os ydych yn paratoi am waith, symud fewn i waith neu yn edrych i gynyddu eich enillion.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol (UC), p’un ydych yn newydd i edrych am waith neu wedi cael trafferth i ddychwelyd i waith, efallai y bydd angen rywfaint o arweiniad arnoch i’ch helpu ddod o hyd a gwneud cais am swyddi gwag. Dyna lle mae eich anogwr gwaith yn dod i fewn,

Bydd eich anogwr gwaith yn gwario amser yn dod i’ch adnabod i’w hlpu hwy i’ch deall fel unigolyn. Bydd hyn yn eu helpu i gynghori ar y gefnogaeth gywir i wneud y gwahaniaeth mwyaf i’ch chwiliad gwaith.

Gall eich anogwr gwaith eich helpu ddarganfod eich ffordd o gwmpas marchnad waith heddiw. Byddant yn gwybod pa sectorau sydd fwyaf tebygol o fod yn recriwtio yn eich ardal, a gallant helpu i nodi sut y gallai eich sgiliau a’ch profiad apelio at gyflogwyr.

P’un ydych chi’n chwilio am rôl wahanol neu i ddechrau mewn diwydiant newydd gallant eich cyfeirio at hyfforddiant a allai eich helpu i symud ymlaen tuag at eich nodau swydd. Gallai eu gwybodaeth a’u cysylltiadau â chyflogwyr lleol hefyd eich helpu i gael mynediad at brofiad gwaith gwerthfawr. A gallant eich cyfeirio at gymorth arbenigol gan rwydwaith eang o sefydliadau â all roi’r gefnogaeth ychwanegol i chi

Pam mae hi’n dod i geisio am swyddi, gall eich anogwr gwaith eich helpu i wella eich cyfle o fod yn llwyddiannus yn y farchnad gwaith, Gall eu cefnogaeth gynnwys:

  • helpu chi wneud i’ch CV sefyll allan
  • Sicrhau fod eich sgiliau a phorifad yn cael ei gyfleu mewn ffurflen gais
  • Trefnu cyfweliadau ymarfer i’ch helpu chi fod ar eich gorau yn y peth go iawn
  • Helpu gyda rhai costau teithio a dillad