Neidio i’r cynnwys

Oes gennych chi sgiliau creadigol? Darganfyddwch pa gwmnïau sy’n recriwtio

Girl drawing on a digital device at a desk

Gellir trosglwyddo sgiliau creadigol yn rhwydd ac mae llawer o ddiwydiannau tu allan i’r sectorau creadigol y byddai’n elwa o gyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd.

Os ydych yn chwilio am waith a bod gennych gefndir creadigol, mae llawer o sectorau sy’n edrych am y sgiliau sydd gennych.

Sut gallwch bontio’r bwlch rhwng eich cefndir a’ch swydd newydd?

Mae’r Creative Industries Federation (CIF) yn helpu pobl o bob oedran i gael gwaith mewn busnesau creadigol.  Mae’r wefan Talent Exchange yn blatfform newydd sy’n cael ei gefnogi gan y CIF a McKinsey & Company, a’u nerthu gan eightfold.ai, sy’n galluogi gweithwyr proffesiynol yn niwydiannau creadigol i fenthyg eu sgiliau i sectorau eraill, i gynnal eu galluoedd, ac i ennill bywoliaeth. Mae’n defnyddio algorithmau i baru sgiliau a phrofiad y sawl sy’n chwilio am waith â swyddi perthnasol mewn cwmnïau sy’n cyflogi. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan eightfold.ai.

Gall ceiswyr gwaith sy’n edrych i ailsgilio, uwchsgilio, neu newid gyrfa yn y tymor byr ymuno â’r platfform nawr ar wefan Creative Industries i feithrin sgiliau a galluoedd newydd trwy wefan Udemy, un o’r marchnadoedd mwyaf am ddygu ar-lein, am ddim cost. Gallwch feithrin sgiliau ar Udemy gan gynnwys:

  • rheoli busnesau, cyllid, a dadansoddeg data
  • dylunio
  • datblygu gwe, meddalwedd, a gemau
  • adeiladu brand, datblygu gyrfa, ac arweinyddiaeth
  • marchnata
  • dysgu

Unwaith rydych wedi cofrestru, gall y platfform cynllunio gyrfa ddangos hyd at 10 o lwybrau gyrfa dyfodol, yn seiliedig ar eich dewis swyddi neu’r rheiny sy’n cydfynd â’ch profiad gwaith.

Gallwch hefyd ddewis swydd er mwyn dysgu rhagor am gyrraedd y swydd yn y dyfodol, cymryd cyrsiau fydd yn eich helpu i bontio unrhyw bylchau sydd gennych o ran sgiliau, neu adoygu swyddi gwag ar y Talent Exchange sy’n cydfynd. Gellir gosod hysbysiadau dros ebost fel eich bod yn eu gweld wrth iddynt gael eu hychwanegu.

Erthyglau