Neidio i’r cynnwys

Gwladolion o’r UE sy’n gweithio yn y DU

Hand resting on laptop next to take away coffee cup

Os ydych yn ddinesydd o’r UE sy’n byw yn y DU mae’n bwysig eich bod yn gwybod am Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. I ddarganfod mwy o wybodaeth, ac i gofrestru, gwiriwch y canllawiau ar wefan gov.uk.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais, ac wedi cael statws statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog, rydych wedi amddiffyn eich hawliau i fyw a gweithio yn y DU, a chael cefnogaeth ariannol trwy fudd-daliadau fel Credyd Cynhwysol os ydych yn gymwys.

Os ydych eisiau byw neu weithio yn y DU ar ôl 30 Mehefin, mae rhaid i chi gofrestru cyn i’r cynllun gau. Ar ôl i’r cynllun gau, os nad oes gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog, efallai na fyddwch yn gallu gweithio na hawlio budd-daliadau yn y DU. Efallai y bydd cyflogwyr hefyd yn gofyn i chi ddangos eich bod yn cael gweithio yn y DU, ewch i wefan gov.uk i gael mwy o fanylion.

Erthyglau