Neidio i’r cynnwys

Gweithio ym maes gweithgynhyrchu bwyd: yr hyn rydych angen ei wybod

Woman in face mask, hair net and gloves working in a sterile environment

Mae cynhyrchu bwyd a diod yn ddiwydiant bywiog, arloesol a chyffrous. Dyma’r sector gweithgynhyrchu mwyaf yn y wlad (mwy na modurol ac awyrofod gyda’i gilydd) ac mae’n rhan hanfodol o economi’r DU. Mae bron i hanner miliwn o bobl yn chwarae rhan wrth gynhyrchu ystod wych o fwyd a diod sy’n cael ei fwynhau yma yn y DU ac ar draws y byd.

Mae’n ddiwydiant amrywiol iawn, sy’n cynnig cyflogaeth i bobl sydd ag ystod eang o sgiliau a thalentau. P’un ag ydych yn chwilio am swydd lefel mynediad mewn cynhyrchu neu bacio, neu rôl dechnegol neu arweinyddiaeth mewn gwyddor bwyd, peirianneg neu gynaliadwyedd, yna gallai’r diwydiant fod â rôl i chi.

Mae llawer o fusnesau hefyd yn cynnig cyfle i barhau i ddysgu ac ennill cymwysterau proffesiynol mewn meysydd fel rheoli tîm neu brosiect, iechyd a diogelwch, a diogelwch bwyd.

Beth rwyf ei angen?

Mae llawer o swyddi lefel mynediad ar gael ar hyn o bryd, ac nid oes angen cymwysterau neu brofiad penodol arnoch bob amser. Chwiliwch y wefan Dod o hyd i swydd i weld beth sydd ar gael.

Mae’r mwyafrif o fusnesau bwyd a diod hefyd yn cynnig ystod eang o brentisiaethau a phrentisiaethau gradd a all gefnogi eich datblygiad a’ch datblygiad yn eu busnes. Gallwch chwilio am gyfleoedd prentisiaeth ar wefan Find an Apprenticeship.

Ar gyfer swyddi mwy technegol ac uwch, fel rheol byddwch angen y cymwysterau neu’r profiad cywir. Os oes gennych gymwysterau mewn pynciau STEM (hynny yw Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg neu Fathemateg), yna gallai ystod enfawr o rolau arbenigol fod yn agored i chi, gan gynnwys peirianwyr bwyd, gweithredwyr prosesau, gweithwyr proffesiynol technegol, technolegwyr bwyd, technolegwyr pecynnu neu dechnegwyr datblygu cynnyrch newydd.

Ar gyfer rolau lefel graddedig, fel rheol byddech angen o leiaf pas 2:2 mewn pwnc sy’n berthnasol i’r swydd rydych yn ymgeisio amdani.

Dolenni pellach:

cael help gyda dod o hyd i swydd bwydd sy’n addas i chi drwy ddefnyddio’r ‘Food and Careers Tool’ ar wefan y Prifysgol Nottingham.

os ydych yn yr Alban mae gwefan Food and Drink Careers in Scotland yn ffynhonell dda o wybodaeth

Ac os ydych mewn addysg llawn amser (neu wedi gorffen yn ddiweddar), edrychwch ar y wefan Tasty Careers.

Neu am fwy o wybodaeth gwyliwch y fideo Working in the UK Food Industry o wefan yr ‘Association of Labour Providers’

Chwiliwch am a gwnewch gais am swyddi gweithgynhyrchu bwyd ar y wefan Dod o hyd i swydd.

Erthyglau