Neidio i’r cynnwys
Two people walking between stacked shelves in a warehouse

Trafnidiaeth a Logisteg

Mae’r sector logisteg yn cynnwys ystod eang o swyddi, o yrrwyr lori i staff warws, gyrrwyr cyflenwi i arweinwyr tim, a gyrrwyr tacsi a gweithwyr post. Mae hefyd yn lorïau, awyrennau, trenau a chychod, yn ogystal â deallusrwydd artiffisial, roboteg ddatblygedig, cerbydau ymreolaethol a datgarboneiddio’r gadwyn gyflenwi. Mae’r swyddi hyn yn chwarae rhan allweddol yn helpu Prydain i weithio drwy gyflenwi pobl a cynnyrch i ble maent eu hangen.

Mathau o swyddi

Mae Logisteg yn ddiwydiant eang iawn, yn aml yn cael ei ddefnyddio i siarad am gludo, dosbarthu neu storio nwyddau. O fewn hynny mae nifer o wahanol feysydd o’r gadwyn gyflenwi i weithgynhyrchu cerbydau, a chynllunio trafnidiaeth i reoli traffig, felly mae’n cynnig ystod enfawr o gyfleoedd. Dyma ychydig o enghreifftiau o’r rolau amrywiol sydd ar gael:

  • Gyrrwyr HGV
  • Gwasanaethau Bws, Tram a choets (gan gynnwys gyrrwyr)
  • Gweithredwyr Warws (gan gynnwys pigwyr stoc a gweithredwyr fforch godi)
  • Diogelwch
  • Gweinyddiaeth
  • Glanhawyr

Manteision gweithio mewn Trafnidiaeth a Logisteg

  • Mae gan lawer o swyddi gyflogau isel i ddechrau ond fel arfer mae potensial i enillion godi’n sylweddol. Gall gyrwyr profiadol cerbydau nwyddau mawr ennill hyd at £35,000. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol.
  • Nid oes angen cymwysterau academaidd arnoch bob amser i ddechrau ym mhob rôl, ond mae cyfleoedd gwych i ymuno wedi i chi gael graddau neu astudiaethau eraill. Ac mae cyfleoedd i ddysgu ac adeiladu eich gyrfa hefyd – mae cymhlethdod cynyddol yr amgylchedd logisteg yn golygu bod llawer o reolwyr yn ymgymryd â chymwysterau Diplomâu, NVQ neu Feistr er mwyn gwella eu sgiliau a’u rhagolygon ar gyfer dilyniant gyrfa. Mae llawer o gymwysterau cydnabyddedig mewn logisteg i’r rhai sy’n awyddus i ddatblygu eu gyrfa.
  • Nid yw’r gair diflastod yng ngeiriau’r mwyafrif o bobl sydd â gyrfa mewn logisteg. Mae’r amrywiaeth fawr o waith bob amser yn cadw’r swydd yn ddiddorol. Yn ogystal, mae llawer o gwmnïau sy’n arbenigo mewn logisteg yn delio ag amrywiaeth eang o ddeunyddiau a nwyddau a’r gadwyn gyflenwi ryngwladol.
  • Mae’r sector Logisteg yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf ac mae’r pandemig wedi dangos faint rydym yn dibynnu arno. Mae cyflogwyr yn buddsoddi yn eu staff hefyd, gyda 62% o gyflogwyr yn darparu hyfforddiant.
  • Rydych yn gywir, dynion yw’r mwyafrif o’r gweithlu. Ond mae pethau yn newid yn gyflym ac mae tua 400,000 o ferched yn gweithio yn y sector logisteg, ar draws y diwydiant.
  • Mae rhai rolau, ond nid pob un, yn gofyn am waith sifft gan gynnwys gyda’r nos, nosweithiau a phenwythnosau. Mae ystod eang o oriau gwaith a phatrymau ar draws y diwydiant gyda dros 300,000 o staff yn gweithio’n rhan amser.
Dyn yn gyrru fforch godi mewn warws

Sgiliau dymunol

Nid oes angen profiad arnoch bob amser i gael i mewn i swyddi yn y sector logisteg. Gall eich sgiliau trosglwyddadwy, megis sgiliau gyda phobl a sgiliau cyfathrebu,  o swyddi eraill eich gwneud yn ffit gwych, hyd yn oed os ydych erioed wedi ystyried y mathau hyn o rolau o’r blaen. Ar gyfer rhai swyddi, fel gyrrwr lori, byddwch angen y drwydded gywir.

Dysgu mwy

CYMORTH OS OES GENNYCH ANABLEDD NEU GYFLWR IECHYD HIRDYMOR

Mae llawer o gyflogwyr yn y sector hwn yn aelodau o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Mae hyn yn golygu eu bod wedi ymrwymo i gamau gweithredu a fydd yn darparu cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwaith i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol. Gallwch chwilio am swydd gyda chyflogwr Hyderus o ran Anabledd ar Dod o hyd i swydd.

Gall Mynediad i Waith dalu tuag at y costau am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd ac efallai y gall ddarparu cymorth ymarferol neu iechyd meddwl parhaus pan fyddwch yn cael swydd. I gael gwybod a ydych yn gymwys, edrychwch ar y canllawiau diweddaraf.

 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

Gweithio’n ddiogel yn ystod Coronafeirws

Darganfyddwch sut i leihau y risg o COVID-19 yn lledaenu yn eich gweithle

Ewch i'r safle

Erthyglau perthnasol

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd