Neidio i’r cynnwys

CYMORTH COLLI SWYDD

Young woman working at laptop

BETH I’W WNEUD OS DYWEDWYD WRTHYCH EICH BOD MEWN PERYGL O GOLLI SWYDD

Os dywedwyd wrthych eich bod mewn perygl o golli eich swydd neu os ydych wedi colli eich swydd yn ddiweddar, efallai y bydd Gwasanaeth Ymateb Cyflym y Ganolfan Byd Gwaith yn gallu rhoi cymorth i chi.

Gallai hyn gynnwys help i ddod o hyd i swydd newydd, cyrsiau hyfforddiant addas, yn ogystal â mwy o gymorth ariannol i helpu gyda phethau fel costau teithio i’r gwaith, gofal plant neu gostau hyfforddiant.

Darganfyddwch fwy am Wasnaeth Ymateb Cyflyn a chymorth arall y Ganolfan Byd Gwaith a allai fod ar gael i chi.

HELP I DDOD O HYD I’CH SWYDD NESAF

Pan fyddwch yn chwilio am swydd newydd mae’r wefan Dod o hyd i swydd yn lle da i ddechrau. Gallwch hidlo swyddi gwag yn ôl sector, lleoliad ac a ydynt yn llawn amser neu’n rhan-amser.

Mae hefyd digon o gyngor ar ddod o hyd i swydd ar draws y wefan hon, ac efallai y byddwch am edrych ar y tudalennau canlynol am awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu i gael eich swydd nesaf:

Os byddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith tra’n chwilio am eich swydd nesaf, gallwch hefyd gael cymorth a chefnogaeth arbenigol i ddod o hyd i’ch rôl nesaf gan Anogwr Gwaith.

CYMORTH ARIANNOL WRTH CHWILIO AM WAITH

Os ydych wedi colli eich swydd neu wedi cael gwybod y byddwch yn colli eich swydd yn fuan, mae cymorth a allai fod ar gael i chi yn cynnwys:

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech wneud cais am gyfuniad o’r budd-daliadau hyn. Defnyddiwch gyfrifianell budd-daliadau i gael y darlun llawn o’r holl gymorth ariannol y gallech fod yn gymwys i’w gael. Gall hyn gyfrifo’r swm y gallech ei gael a gallai gynnwys cymorth ychwanegol fel gostyngiadau cyfraddau treth gyngor neu lwfansau tywydd oer.

Efallai y bydd help ariannol arall hefyd ar gael.

HELP I DDELIO Â DYLEDION

Os cewch drafferthion ariannol ar ôl cael colli eich swydd, mae’r gwasanaeth HelpwrArian yn cynnig teclyn Rheolwr Arian a all eich helpu i gyllidebu’n effeithiol a rheoli’ch arian.

Darllenwch fwy am help gyda rheoli eich arian tra’n cael Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am Wasanaeth Ymateb Cyflym y Ganolfan Byd Gwaith a chymorth arall a allai fod ar gael i chi.

Articles