Neidio i’r cynnwys

5 camgymeriad arferol CV – a sut i’w osgoi

Women updating her CV at a laptop in a coffee shop

Cael eich CV yn gywir yw’r rhan bwysicaf o wneud cais am swydd. Ond ni fyddwch yn llwyddo i wneud argraff dda ar recriwtiwr na rheolwr AD anodd os ydych yn gwneud un o’r camgymeriadau CV mwyaf cyffredin. Dyma bump i’w hosgoi….

  1. Dylech deilwra’ch CV i’r rôl bob amser. Mae llawer o geisiadau swydd yn mynd trwy feddalwedd cyn iddynt fynd at sylw person go iawn, gan gael eu sganio am eiriau allweddol sy’n cyfateb â’r hysbyseb swydd wreiddiol. Sicrhewch fod gan eich un chi’r cyfle orau i lwyddo – a gwneud argraff ar y person ar y pen arall – trwy deilwra’ch CV i’r swydd.
  2. Un syml, ond mor amlwg: defnyddiwch y gwiriad sillafu. Mae’n nodwedd sydd wedi’i chynnwys yn Word ac mae meddalwedd am ddim i’w defnyddio ar-lein os nad oes gennych Word. Peidiwch â rhoi eich hun o dan anfantais am wneud camgymeriad teipio sylfaenol.
  3. Peidiwch ysgrifennu mwy na dwy dudalen. Hyd ddelfrydol CV yw ddwy ochr – mae’r recriwtwyr yn bobl brysur, ac yn gynyddol mae ganddynt nifer fawr o CVs i’w didoli. Peidiwch â rhoi traethawd iddynt ei ddarllen.
  4. Esboniwch y bylchau. Mae bylchau mewn cyflogaeth yn digwydd i bawb, ond peidiwch â gadael bylchau aneglur ar eich CV. Nid yw cyflogwyr eisiau dyfalu beth oeddech yn ei gwneud rhwng swyddi, felly eglurwch yn fyr yr oeddech allan o waith a chyfeiriwch at unrhyw sgiliau trosglwyddadwy y gallech fod wedi’u dysgu ar hyd y ffordd.
  5. Yn aml, un camgymeriad hawdd i’w anwybyddu ar eich CV yw cael cyfeiriad e-bost chwithig. Efallai roedd thefunnycookie@hotmail.com yn ddoniol iawn pan oeddech yn 14 oed, ond mae angen fformat syml fel enwcyntaf.cyfenw@rhywlesynhwyrol.com arnoch wrth wneud cais am swyddi.

Gwyliwch ein fideo awgrymiadau CV i ddeall ymhellach yr hyn y dylai ac na ddylai CV ei gynnwys a sut i wneud i’ch un chi weithio’n galetach i chi.