Neidio i’r cynnwys

Mynediad at Waith

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, yna efallai y byddwch angen help ychwanegol i ddechrau swydd newydd, neu i aros yn y gwaith. Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i'ch cefnogi yn y gwaith, trwy ystyried addasiadau rhesymol i'r swydd, y broses recriwtio neu drwy ddarparu offer ychwanegol. Os ydych angen cymorth ychwanegol, dylech bob amser ddechrau trwy siarad â'ch cyflogwr i weld sut y gallant eich helpu. Yn ogystal â chefnogaeth gan eich cyflogwr, efallai y gallwch hefyd gael help gan Fynediad at Waith.

Ar gael I:

Unrhyw un â chyflwr iechyd meddwl neu gorfforol neu anabledd sy'n ei gwneud hi'n anodd gwneud rhannau o'ch swydd, neu fynd i neu ddod o’r gwaith

Hyd:

Bydd y gefnogaeth a gynigir i chi yn seiliedig ar eich anghenion

Lleoliad:

Cymru, Lloegr, Yr Alban

Cyfyngiad Oed:

All ages

Sut I wneud cais:

Siaradwch â'ch cyflogwr am sut y gallai Mynediad at Waith eich helpu chi. Fel arall, gall cynghorydd Mynediad at Waith weithio'n uniongyrchol gyda chi a'ch cyflogwr i awgrymu newidiadau ymarferol a allai eich cefnogi yn y gweithle.

Woman working at standing desk

Beth yw Mynediad at Waith?

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, yna efallai y byddwch angen help ychwanegol i ddechrau swydd newydd, neu i aros yn y gwaith.

Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i’ch cefnogi yn y gwaith, trwy ystyried addasiadau rhesymol i’r swydd, y broses recriwtio neu drwy ddarparu offer ychwanegol. Os ydych angen cymorth ychwanegol, dylech bob amser ddechrau trwy siarad â’ch cyflogwr i weld sut y gallant eich helpu. Yn ogystal â chefnogaeth gan eich cyflogwr, efallai y gallwch hefyd gael help gan Fynediad at Waith.

Cynllun gan y llywodraeth yw Mynediad at Waith a all dalu am gymorth ychwanegol i’ch helpu i ddechrau neu aros mewn gwaith. Bydd y gefnogaeth a gynigir i chi yn seiliedig ar eich anghenion, a gallai gynnwys grant i helpu i dalu costau cymorth ymarferol yn y gweithle. Efallai y bydd yn gallu talu am gymorth ychwanegol ar ben unrhyw addasiadau rhesymol rydych wedi cytuno â’ch cyflogwr.

Mae ar gael os oes gennych gyflwr iechyd (naill ai’n feddyliol neu’n gorfforol), neu anabledd sy’n effeithio arnoch yn y gwaith. Nid oes angen ad-dalu grant Mynediad at Waith a gallai dalu am ystod o gymorth gwahanol y gallech fod ei angen, gan gynnwys:

  • gweithwyr cefnogol i’ch helpu
  • offer arbenigol i wneud gweithio’n haws
  • helpu gyda chost teithio i ac o’r gwaith
  • cefnogaeth iechyd meddwl

Os yw’ch cyflwr iechyd yn gofyn ichi weithio gartref weithiau, gallai Mynediad at Waith hefyd helpu gyda’r addasiadau sydd eu hangen gartref i’ch helpu i aros yn y gwaith.

 

I fod yn gymwys am Fynediad at Waith mae’n rhaid i chi:

  • fod ag anabledd neu gyflwr iechyd (corfforol neu iechyd meddwl) sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi wneud rhannau o’ch swydd neu deithio i ac o’r gwaith
  • bod yn 16 oed neu drosodd
  • byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

Gallwch wirio os ydych yn gymwys am Fynediad at Waith ar wefan gov.uk.

Mae angen i chi hefyd gael swydd â thâl, neu fod ar fin dechrau neu ddychwelyd i un. Gallai swydd â thâl gynnwys:

  • hunangyflogaeth
  • prentisiaeth
  • swydd breswyl

Gallai Mynediad at Waith hefyd dalu i chi gymryd rhan mewn profiad Gwaith neu dreial Gwaith.

Dylech siarad â’ch cyflogwr am sut y gallai Mynediad at Waith eich helpu. Ond os yw’n well gennych, gall ymgynghorydd Mynediad at Waith weithio’n uniongyrchol gyda’ch cyflogwr i awgrymu newidiadau ymarferol a allai eich cefnogi yn y gweithle.

Gallwch wirio’r meini prawf llawn a gwneud cais drwy ymweld â gov.uk

Gallwch hefyd gael mynediad i daflen ffeithiau hawdd ei darllen Mynediad at Waith neu ymweld â sianel arwyddo YouTube DWP ar gyfer fideos Iaith Arwyddion Prydain (BSL) am Fynediad at Waith.

 

Erthyglau