Neidio i’r cynnwys

Pa fudd-daliadau y gallech fod yn gymwys iddynt?

mother with 2 children

Os ydych wedi eich diswyddo, efallai y byddwch yn gymwys am gymorth ariannol.

Gallai Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill helpu tra rydych yn chwilio am eich swydd nesaf ac fel rydych yn cymryd eich camau cyntaf yn eich gyrfa newydd.

Gallwch ddefnyddio’r teclyn Gwiriwr Budd-daliadau i gael syniad cyflym o ba gymorth ariannol y gallwch efallai wneud cais amdano. Bydd yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi ac yn awgrymu pa help rydych chi’n fwyaf tebygol o fod yn gymwys i’w gael. I gael dealltwriaeth fwy cyflawn o’r holl gefnogaeth a allai fod ar gael, a faint y gallech ei gael, defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau. Bydd hyn yn cymryd ychydig mwy o amser i’w lenwi, ond bydd yn rhoi darlun manylach i chi o’r help y gallech ei dderbyn.

Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am yr holl gymorth diswyddo a allai fod ar gael i chi ar wefan Cymorth Cyflogaeth a Budd-daliadau.

Erthyglau perthnasol