Neidio i’r cynnwys

Chwilio am swydd os ydych yn anabl

Dwy fenyw, un mewn cadair olwyn yn gweithio gyda'i gilydd o amgylch gliniadur. Yn cysylltu i Chwilio am waith os ydych yn anabl

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, rydych wedi’ch diogelu rhag gwahaniaethu yn ôl y gyfraith. Dros y degawdau diwethaf rydym wedi gweld newid enfawr yn niwylliant y gweithle yn y DU, ond mae’n bwysig cydnabod nad yw ymgeisio am swydd yn hawdd bob amser.

Trwy ystyried cwmnïau sydd â bathodyn Hyderus o ran Anabledd, gallwch fod yn sicr bod y cwmni wedi ymrwymo i adeiladu gweithle mwy cynhwysol sy’n rhoi cyfle i bobl anabl ffynnu yn y gwaith.

A’r newyddion gwych yw bod mwy na 18,000 o gwmnïau wedi ymuno ledled y wlad.

Beth yw Hyderus o ran Anabledd?

Cynllun 3 cham a gefnogwyd gan y Llywodraeth yw Hyderus o ran Anabledd (agor mewn tab newydd) sy’n hyrwyddo arferion cyflogwyr da i gynorthwyo pobl anabl i fynd i mewn i waith a symud ymlaen.

Mae hyn yn golygu y gallwch fod yn hyderus wrth gysylltu â chwmni sydd wedi arwyddo ynghylch addasiadau i’r gweithle, fformatau cyfweld amgen neu unrhyw amrywiad arall a allai eich helpu i fynd i mewn a dod ymlaen yn eu cwmni.

Byddwch yn hyderus

Efallai na fydd pob cwmni wedi clywed am Hyderus o ran Anabledd eto. Nid yw hynny’n golygu nad yw cwmni sydd heb cofrestru yn eich trin yn deg – i’r gwrthwyneb, mae’r rhan fwyaf o gwmnïau eisiau i bobl wych lenwi eu rolau.

Ond fel unrhyw geisiwr gwaith, byddwch eisiau gwybod popeth am gwmni cyn i chi wneud cais, ac ymchwilio i weld p’un ag y gall Hyderus o ran Anabledd fod yn gam craff.

Nawr gallwch hidlo eich chwiliad ‘Dod o hyd i swydd’  (agor mewn tab newydd)  gan gwmnïau Hyderus o ran Anabledd, felly gallai hwn fod yn lle gwych i ddechrau eich chwiliad gwaith.

Ac wrth gwrs rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i fagu hyder a gwytnwch mewnol i ymgeisio am swyddi a cheisio dyrchafiadau. Mae sawl cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn annog eu gweithwyr anabl eu hunain i rannu syniadau ac awgrymiadau mewn rhwydweithiau gweithwyr ac i gynnig syniadau i wella arfer yn y gweithle. Gallwch ddod o hyd i rai awgrymiadau ar fagu hyder (agor mewn tab newydd)  ar Purple Space.

Erthyglau