Neidio i’r cynnwys
Nurse caring for patient

Sector Cyhoeddus

Y sector cyhoeddus yw'r term ar gyfer ystod eang o yrfaoedd a swyddi mewn llywodraeth ganolog a lleol a gwasanaethau rheng flaen, fel nyrs neu mewn canolfan gwaith.

Mathau o swyddi

Mae graddfa ac ystod y gyrfaoedd mewn gwasanaeth cyhoeddus yn eang. Efallai eich bod yn ymwybodol o lawer fel nyrsio, bod yn feddyg, parafeddyg neu weithio ym maes gofal cymdeithasol oedolion, hyd at fod yn heddwas, yn athro neu’n weithiwr cymdeithasol.

Ond, a oeddech yn gwybod y gallech weithio fel gweithiwr llu’r ffiniau mewn meysydd awyr neu borthladdoedd, swyddog cynllunio, arolygydd iechyd a diogelwch, neu hyd yn oed reolwr traffig awyr yn y sector cyhoeddus? Mae hefyd ystod o broffesiynau o fewn y Gwasanaeth Sifil ac amrywiaeth eang o rolau o fewn adrannau’r llywodraeth.

Buddion o weithio yn y sector cyhoeddus

  • Mae’n yrfa werth chweil lle gallwch gyfrannu at gymdeithas.
  • Gallwch wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau a chymunedau pobl. Mae ei angen bob dydd, nid dim ond mewn argyfyngau.
  • Mae gyrfa yn y sector cyhoeddus yn cynnig tâl, sefydlogrwydd, a buddion rhesymol.
  • Gallwch ddatblygu’n barhaus trwy gydol eich gyrfa, a chymryd amrywiaeth o lwybrau gyrfa neu broffesiynau. Mae graddfa ac ystod y gyrfaoedd a gynigir heb ei debyg.
  • Rydych yn cael gweithio â chydweithwyr talentog sy’n dod ag egni, yn mynd yr ail filltir ac yn cyflawni er budd y cyhoedd.
  • Mae’n ddeinamig, yn gyflym ac yn arloesol. Mae’n gofyn am bobl sy’n gallu meddwl a gweithredu’n gyflym, a darparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ffyrdd newydd.
  • Cewch gyfle i weithio ar brosiectau mawr ledled y wlad.

Adnoddau

Os ydych yn edrych am swydd yn y sector cyhoeddus, mae’r adnoddau hyn yn lle gwych i gychwyn.

Menyw yn addysgu myfyrwyr meithrin

Sgiliau dymunol

Ar gyfer llawer o rolau, bydd profiad neu gymwysterau yn ofynnol, er mae’n bwysig i gofio ar gyfer rhai swyddi sector cyhoeddus, y peth pwysicaf yw cael agwedd dda a sgiliau trosglwyddadwy, megis sgiliau cyfathrebu da, datrys problemau a hyblygrwydd, sgiliau cyfrifadurol, bod yn drefnus a gallu gweithio ar gyflymder

CYMORTH OS OES GENNYCH ANABLEDD NEU GYFLWR IECHYD HIRDYMOR

Mae llawer o gyflogwyr yn y sector hwn yn aelodau o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Mae hyn yn golygu eu bod wedi ymrwymo i gamau gweithredu a fydd yn darparu cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwaith i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol. Gallwch chwilio am swydd gyda chyflogwr Hyderus o ran Anabledd ar Dod o hyd i swydd.

Gall Mynediad i Waith dalu tuag at y costau am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliad swydd ac efallai y gall ddarparu cymorth ymarferol neu iechyd meddwl parhaus pan fyddwch yn cael swydd. I gael gwybod a ydych yn gymwys, edrychwch ar y canllawiau diweddaraf.

 

Gweithio yn ddiogel yn ystod Coronafeirws

Darganfyddwch sut i leihau y risg o COVID-19 yn lledaenu yn eich gweithle

Ewch i'r safle

Related articles

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd