Neidio i’r cynnwys

Gweithio yn y Gwasanaeth Sifil

Two men discussing an obscured iPad screen

Mae gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil yn gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn.

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn darparu gwasanaethau cyhoeddus ac yn cefnogi llywodraeth y dydd i ddatblygu a gweithredu eu polisïau. Mae’r gwaith y mae gweision sifil yn ei wneud yn cyffwrdd â phob agwedd ar fywyd yn y DU, o addysg a’r amgylchedd, i drafnidiaeth ac amddiffyn. Gyda’i gilydd, maent yn sicrhau bod y llywodraeth yn cael ei rhedeg yn effeithiol ac yn darparu’r gwasanaethau gorau posibl i’r cyhoedd.

Beth mae gweision sifil yn ei wneud?

Mae graddfa, cymhlethdod ac effaith y gwaith mae gweision sifil yn ei wneud heb ei ail.
Mae’r Gwasanaeth Sifil yn cyflogi 420,000 o bobl ledled y wlad a thramor. Mae eu gwaith yn ymestyn o gynghori gweinidogion ar bolisi, i ddarparu gwasanaethau rheng flaen i’r cyhoedd. Ac o wasanaeth cwsmeriaid i ddatblygwyr gwe, a rheolwyr canolfannau gwaith i beirianwyr, gallai fod rôl i chi.

Pam ymuno â’r Gwasanaeth Sifil?

Mae’r Gwasanaeth Sifil yn ymfalchïo mewn bod yn le gwych i weithio. Mae wedi’i adeiladu ar gred bod gan bawb y potensial i wneud gwahaniaeth, ac awydd i sicrhau bod cydweithwyr yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i wneud hynny.

Bydd ymuno â’r Gwasanaeth Sifil yn rhoi mynediad i chi at gyfleoedd dysgu a datblygu eithriadol ac amrywiaeth o lwybrau gyrfa. Fe gewch gefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa, ynghyd â gweithio’n hyblyg, cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil ac absenoldeb rhiant a rennir.

Meddwl bod holl swyddi’r gwasanaeth sifil wedi’u lleoli’n Llundain? Mae amseroedd wedi newid ac mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno ymgyrch recriwtio newydd, sydd wedi’i hanelu at unigolion dawnus ar draws y DU, a elwir Nes at Adref. Gallwch ddatblygu gyrfa amrywiol a boddhaus yn y Gwasanaethau Sifil, tu allan i Lundain, a byw a gweithio’n nes adref.

Edrychwch ar dudalen lleoliadau Nes at Adref, sy’n amlinellu rolau rhanbarthol.

I ddarganfod mwy ewch i’r wefan Civil Service careers.

Chwiliwch am a gwnewch gais am swyddi ar wefan Civil Service Jobs.