Neidio i’r cynnwys

Sut brofiad yw gweithio mewn carchar a’r gwasanaeth prawf?

Mae gweithio mewn carchar a’r gwasanaeth prawf yn golygu gweithio mewn rôl hanfodol a all fod yn hynod werth chweil. Os oes gennych empathi, eisiau helpu pobl, a gweithio’n dda mewn tîm, gallai fod swydd i chi.

Swyddi carchar

P’un a ydych yn Swyddog Carchardai neu’n Radd Cymorth Gweithredol (OSG), nid oes dau ddiwrnod yn gweithio mewn carchar yr un peth. Mae Swyddogion Carchardai yn negodwyr, yn addysgwyr ac yn newidwyr bywyd. Mae OSGs yn chwaraewyr tîm ac yn rhan annatod o redeg y carchardai yn llyfn. Beth bynnag fydd eich swydd, byddwch yn fodel rôl, gan weithio mewn amgylchedd cefnogol i helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Gwyliwch y fideo hon i ddarganfod mwy.

Dewch o hyd i swyddi carchar yn agos i chi ar wefan Gwasanaeth Prawf a Charchardai EF.

Swyddi gwasanaeth prawf

Mae Swyddogion Gwasanaeth Prawf a Swyddogion Gwasanaethau Prawf yn gweithio gyda thua 30,000 o droseddwyr y flwyddyn i gefnogi eu hadsefydliad. Mae ganddyn nhw ran bwysig i’w chwarae – helpu i ddiogelu cymunedau trwy gynorthwyo pobl i fynd yn ôl ar y trywydd iawn a gwneud dewisiadau bywyd gwell.

Cofrestrwch eich diddordeb nawr i hyfforddi i fod yn swyddog prawf ar wefan Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

O arlwywyr carchardai, i weithwyr cyfiawnder ieuenctid, mae yna ddigon o rolau eraill yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF. Darganfyddwch fwy ar wefan Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

Ymwelwch â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol i gael proffiliau gyrfa manwl a darganfod beth mae pob swydd yn ei olygu.

Mewn rhai swyddi bydd angen i chi basio gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), a gellir dod o hyd i arweiniad ar wefan GOV.UK. Gallwch hefyd ddysgu am y broses DBS gyda’r canllaw hwn ar YouTube.