Neidio i’r cynnwys

Ysbrydoli cenhedlaeth trwy addysgu

Mae addysgu yn yrfa fel dim byd arall.

Does dim llawer o swyddi lle rydych yn mynd adref bob dydd gan wybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun. Gallech ddysgu plant mewn ysgol gynradd neu uwchradd, neu rannu eich sgiliau gyda myfyrwyr 16+ oed gyda cholegau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant annibynnol.

Dyma 5 rheswm pam y dylech ystyried addysgu a rhywfaint o wybodaeth am ble i ddechrau

1. Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a siapio bywydau

Mae pawb yn cofio athro a wnaeth wahaniaeth go iawn i’w bywyd. Mae dysgu yn caniatáu i chi ddefnyddio’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch angerdd i helpu myfyrwyr i ddatgloi talentau nad oeddent yn gwybod oedd ganddynt.

2. Amrywiaeth diddiwedd

Mae pob diwrnod yn wahanol heb fyth eiliad ddiflas wrth ddysgu. Anogir athrawon i feddwl am ffyrdd creadigol o ennyn diddordeb eu myfyrwyr a byddwch yn gallu defnyddio’ch profiad i helpu i ddod â’ch pwnc yn fyw.

3. Cymorth ariannol tra byddwch yn hyfforddi

Yn dibynnu ar y pwnc rydych am ei ddysgu, mae yna ddigon o gymorth ariannol ar gael yn ystod eich hyfforddiant athrawon.

4. Cyflog cystadleuol a dilyniant gyrfa

Ewch i wefan Get Into Teaching i ddarganfod am y cyflog cystadleuol y byddwch yn ei ennill a bydd gennych fynediad at gyfoeth o fuddion eraill gan gynnwys cynllun pensiwn hael. Ac ar ôl cymhwyso, mae yna lawer o gyfleoedd i chi ddringo’r ysgol yrfa mewn dysgu. Gallwch gael mwy o fanylion am symud eich gyrfa yn ei flaen ar wefan Get Into Teaching.

5. Ni fyddwch ar eich pen eich hun

Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn gwneud y newid ac yn defnyddio eu profiadau a’u hangerdd dros eu pwnc i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. Darllenwch am bobl sydd wedi newid gyrfa i mewn i ddysgu ar wefan Get Into Teaching.

I fod yn gymwys i addysgu bydd angen i chi fodloni rhai meini prawf safonol, fel cymwysterau lefel TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, ac fel arfer gradd israddedig. Gall hyn amrywio mewn gwahanol rannau o’r wlad.

Mewn rhai swyddi bydd angen i chi basio gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), a gellir dod o hyd i arweiniad ar wefan GOV.UK. Gallwch hefyd ddysgu mwy am y broses DBS gyda’r canllaw hwn ar YouTube

Darganfyddwch fwy ar y wefan Darganfod Addysgu yng Nghymru,  gwefan Get Into Teaching yn Lloegr neu gwefan Teach in Scotland. Hyd yn oed os ydych yn athro sydd wedi cymhwyso, mae’r safleoedd hyn yn cynnwys manylion am swyddi dysgu sydd ar gael.

Mae digwyddiadau’n cynnig cyfle gwych i ddarganfod mwy am hyfforddiant athrawon a’r hyn sydd gan yrfa mewn addysgu i’w gynnig. Chwiliwch y wefan Get into Teaching i ddod o hyd i ddigwyddiadau gwybodaeth addysgu sy’n digwydd yn agos atoch chi neu ar-lein.

Ewch i wefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol am broffiliau gyrfa manwl ac i ddarganfod beth mae bod swydd yn ei gwmpasu.

Mae gan Dysgu mewn Addysg Bellach ofynion mynediad a phrosesau ymgeisio gwahanol i lwybrau dysgu traddodiadol ar gyfer y blynyddoedd cynnar, cynradd neu uwchradd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn archwilio gwefan Teach in Further Education i gael gwybod mwy.