Beth allai Kickstart ei gynnig i chi?
Mae Kickstart yn gyfle gwych. Nid yn unig y mae’n rhoi mynediad i chi i swydd â thâl chwe mis, byddwch hefyd yn cael profiad gwerthfawr i adeiladu’ch CV, cefnogaeth ychwanegol i hybu eich rhagolygon swydd yn y dyfodol a helpu i ddechrau eich gyrfa.
Mae cyllid ar gyfer swyddi Kickstart yn cwmpasu 25 awr yr wythnos ac yn talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn dibynnu ar eich oedran. Fe’ch telir gan eich cyflogwr ac yn dibynnu ar eich amgylchiad, gallwch barhau i dderbyn Credyd Cynhwysol unwaith y byddwch yn dechrau gweithio. Darganfyddwch fwy am sut mae’ch enillion yn effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol.
"Rwyf yn dysgu sgiliau ac ennill profiad mewn swydd rwy'n ei garu diolch i Kickstart"
James, HOP'T Sauce
Pa fath o swyddi sydd ar gael?
Mae miloedd o swyddi Kickstart ar gael, ledled y wlad ac mewn ystod o wahanol sectorau. P’un a ydych chi’n gweld eich hun yn gweithio ym maes technoleg a digidol, manwerthu, peirianneg, cyfreithiol, marchnata, neu rywbeth arall yn gyfan gwbl, gallai fod swydd Kickstart yn addas i chi.
Gallwch edrych ar swyddi gwag Kickstart cyfredol trwy ein tudalen Dod o hyd i Swydd. Mae’n gyflym, yn syml ac nid oes angen i chi gofrestru i ddefnyddio’r wefan. Yn syml, chwiliwch am ‘Kickstart’ a defnyddiwch yr hidlwyr i leihau eich chwiliad, fel y mathau o swyddi sydd ar gael neu leoliad y swyddi gwag.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n siarad â’ch Anogwr Gwaith i ddarganfod am y cyfleoedd lleol a allai fod ar gael i chi.