Neidio i’r cynnwys

Dod o hyd i waith yn 50 oed a throsodd

Older women holding a meeting

Os ydych dros 50 oed ac yn cael eich hun yn ddi-waith, yn wynebu cael eich diswyddo neu’n meddwl am newid swyddi, gall ymddangos yn frawychus. Efallai ei bod yn flynyddoedd ers i chi ysgrifennu CV, neu fod angen i chi feddwl am defnyddio’ch sgiliau a’ch profiad mewn math gwahanol o rôl. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, dyma rai awgrymiadau defnyddiol i ddechrau…

Cymerwch MOT canol oes

Os ydych yn ystyried newid mewn gyrfa neu rydych am ddeall eich cyllid, mae’r MOT canol oes ar gael fel pecyn cyfeirio ar-lein i’ch helpu i gynllunio ar gyfer newidiadau pwysig.

Gall fod yn ffordd defnyddiol i annog gwell cyngor am waith, cyllid ac iechyd. Gall adran gwaith a sgiliau’r MOT canol oes ar wefan Eich Pensiwn eich cyfeirio at y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i ddychwelyd i gyflogaeth.

Datblygwch eich sgiliau

Os ydych wedi bod yn chwilio am waith am gyfnod, wedi cael eich diswyddo yn ddiweddar, neu’n meddwl newid eich gyrfa, mae gan wefan gov.uk rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol yn amrywio o ddatblygu eich sgiliau, gweithio hyblyg a hunangyflogaeth.

I ddechrau, rhowch wiriad iechyd i’ch sgiliau ac ymrwymwch Awr i Sgilio.

Meddyliwch am adnewyddu eich sgiliau neu feysydd yr hoffech ddatblygu ynddynt. Mae gan wefan y Skills Toolkit gyrsiau digidol a rhifedd o ansawdd uchel am ddim gan ystod o ddarparwyr fel Google Digital Garage, Lloyds Bank Academy a’r Brifysgol Agored.

Os hoffech roi cynnig ar rywbeth newydd, mae’n werth ystyried prentisiaeth, mae’r rhain yn agored i bobl o bob oed a chefndir.

Cofiwch ddiweddaru’ch CV gyda’ch sgiliau, hyfforddiant a phrofiad newydd. Yna gwnewch yn siŵr bod eich llythyr eglurhaol yn rhoi’r cyfle gorau i chi sicrhau’r cyfweliad hwnnw.

Ystyriwch eich opsiynau ar gyfer gwaith newydd

Dechreuwch ar eich chwiliad gwaith trwy ddefnyddio gwefan Dod o Hyd i Swydd. Rydym hefyd wedi llunio rhestr ddefnyddiol o wefannau swyddi.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau ar hyn o bryd, yna gall eich Anogwr Gwaith gynnig ystod o gyngor a chefnogaeth wedi’i theilwra i chi, fel rhan o 50 PLUS: Choices.

Gallai hynny gynnwys, os ydych yn gymwys:

Mae help ychwanegol ar gael i chi hefyd os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd.

Os ydych angen cymorth ariannol wrth chwilio am swydd, darganfyddwch pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl i’w cael.

Mae gan wefan Rest Less filoedd o swyddi ar gael ledled y wlad gan gyflogwyr amrywiol eu hoedran a hwn yw’r bwrdd swyddi mwyaf yn benodol ar gyfer pobl dros 50 oed. Ewch i wefan Rest Less i gael mwy o fanylion.

Yn olaf, os ydych yn gweld bod eich chwiliad gwaith yn her, mae gwefan Age UK yn cynnig rhai adnoddau rhagorol i’ch helpu gyda phroblemau dros wahaniaethu a’ch hawliau, ynghyd â gwybodaeth i’ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd neu ailhyfforddi ac awgrymiadau ar wella’ch gwybodaeth o dechnoleg.

Meddyliwch am waith gwirfoddol

Gall gweithio yn eich pumdegau a’ch chwedegau ac, os dymunwch, ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth helpu i gefnogi eich lles ariannol, iechyd a chymdeithasol yn nes ymlaen mewn bywyd.

Gall gwaith gwirfoddol fod yn ffordd wych o’ch helpu i gael sgiliau newydd a magu hyder mewn maes gwaith gwahanol.  Darganfyddwch pa waith gwirfoddol sydd ar gael ar wefan gov.uk neu cysylltwch â’ch canolfan wirfoddoli leol ar wefan NVCO.

Erthyglau