Neidio i’r cynnwys

Cyngor ar bensiynau

Retired couple walking the dog

Os ydych wedi cyrraedd neu’n nesáu at oedran pensiwn efallai y bydd angen cyngor arnoch am bensiynau neu ymddeoliad.

I wybod beth sy’n digwydd ynglŷn â’ch pensiwn gweithle, gofynnwch i’ch cyflogwr blaenorol neu ddarparwr pensiwn. I ddod o hyd i ragor am eich Pensiwn y Wladwriaeth, gan gynnwys faint y gallech gael pan fyddwch yn ei hawlio, ewch i Wirio eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn 50 oed neu drosodd ac mae gennych bensiwn ar sail cyfraniadau wedi’u diffinio gallwch gael apwyntiad arweiniad diduedd am ddim gyda Pension Wise. Ffoniwch 0800 138 3944 i drefnu apwyntiad neu ewch i Pension Wise.

I gael cyngor annibynnol ar bensiynau, ewch i’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau.

Os ydych angen gwybodaeth am sut y gall pensiynau cael eu heffeithio gan fethdaliad, ewch i The Pension Protection Fund.

Mwy o erthyglau