Mae yna lawer o wahanol rolau swydd ym maes gofal cymdeithasol; mae’n dibynnu ar yr hyn y mae gennych ddiddordeb ynddo, gyda phwy rydych am weithio a ble rydych am weithio. Gallwch weithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys mewn cartref gofal preswyl, yng nghartref rhywun arall neu hyd yn oed yn eich cartref eich hun, yn cefnogi pobl fel gofalwr Shared Lives.
Gofal gartref – cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain
Gallai unrhyw un ar unrhyw gam o fywyd fod angen gofal a chefnogaeth wrth fyw gartref ac yn eu cymuned. Mae hyn yn cynnwys pobl ag anableddau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl, nam ar y synhwyrau neu anableddau corfforol a phobl hŷn. Darganfyddwch fwy ar wefan Every Day is Different.
Gofal preswyl – cefnogi pobl sy’n byw mewn cartrefi nyrsio/gofal
Yn aml (ond nid bob amser) gall gofal preswyl gynnwys gweithio gyda phobl â chyflyrau iechyd fel dementia ac anghenion cymhleth eraill sy’n ei gwneud hi’n anodd iddynt fyw’n annibynnol yn eu cartref eu hunain. Darganfyddwch fwy ar wefan Every Day is Different.
Cynlluniau ‘Shared Lives’ – agor eich bywyd i gynnwys rhywun sydd angen gofal a chefnogaeth
Mae gofalwyr ‘Shared Lives’ yn agor eu cartref a’u bywyd teuluol i gynnwys rhywun sydd angen gofal a chefnogaeth. Gallai fod am ddiwrnod, seibiant byr, neu i fyw gyda chi fel rhan o’ch teulu dros y tymor hir. Darganfyddwch fwy ar wefan Every Day is Different.