Neidio i’r cynnwys

DOD O HYD I WAITH YN 50 OED A THROSODD

Older women holding a meeting

Os ydych yn 50 oed a throsodd ac yn canfod eich hyn yn ddi-waith, yn wynebu colli eich swydd neu’n ystyried newid swydd, gall ymddangos yn frawychus. Efallai ei bod wedi bod amser maith ers i chi ysgrifennu CV, neu mae angen i chi ystyried defnyddio’ch sgiliau a’ch profiad mewn math gwahanol o rôl. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, dyma rai awgrymiadau defnyddiol i ddechrau arni.

CYMERWCH MOT CANOL-OES

Os ydych yn ystyried newid gyrfa neu eisiau deall eich sefyllfa ariannol, mae’r MOT canol-oes ar gael fel pecyn cyfeirio ar-lein i’ch helpu i gynllunio ar gyfer newidiadau pwysig.

Gall fod yn weithred pwyso a mesur defnyddiol i’ch helpu i feddwl am eich swydd, eich arian a’ch iechyd. Gall adran gwaith a sgiliau’r MOT canol-oes ar wefan Eich Pensiwn eich cyfeirio at y cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith.

DATBLYGU EICH SGILIAU

Os ydych wedi bod yn chwilio am waith ers tro, wedi colli eich swydd yn ddiweddar, neu’n ystyried newid eich gyrfa, mae gan wefan gov.uk rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol yn amrywio o ddatblygu eich sgiliau, gweithio hyblyg a hunangyflogaeth.

Mae datblygu eich sgiliau yn ffordd wych o feithrin hunanhyder. Bydd hyder yn eich helpu o’r cam CV hyd at y cyfweliad a thu hwnt.

Ystyriwch adnewyddu eich sgiliau neu feysydd yr hoffech eu datblygu, mae gwefan The Skills Toolkit yn cynnig cyrsiau digidol a rhifedd o ansawdd uchel am ddim gan amrywiaeth o ddarparwyr fel Google Digital Garage, Academi Banc Lloyds a’r Brifysgol Agored.

Os hoffech roi cynnig ar rywbeth newydd, mae’n werth ystyried prentisiaeth, mae’r rhain yn agored i bobl o bob oed a chefndir.

Cofiwch ddiweddaru eich CV  gyda’ch sgiliau, hyfforddiant a phrofiad newydd. Yna gwnewch yn siŵr bod eich llythyr eglurhaol yn rhoi’r cyfle gorau i chi cael y cyfweliad hwnnw.

Beth am wylio’r fideo hwn sy’n rhoi awgrymiadau ar baratoi eich CV.

Gallech ymweld â Datgloi ffordd well ymlaen – Skills for Life (campaign.gov.uk) lle byddwch yn dod o hyd i gymorth hyfforddi a chyngor i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y swydd rydych ei heisiau.

YSTYRIWCH EICH OPSIYNAU AR GYFER GWAITH NEWYDD

Dechreuwch â’ch chwiliad gwaith drwy ddefnyddio’r wefan Dod o Hyd i Swydd. Rydym hefyd wedi llunio rhestr ddefnyddiol o wefannau swyddi.

Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig gweithio hyblyg sy’n cynnwys rhannu swydd a gwaith rhan amser. Gallant hefyd gynnig y cyfle i weithio o bell. Os yw hyn yn rhywbeth yr ydych yn bwriadu ei wneud, ewch i Gwaith hyblyg a rhan-amser – HelpSwyddi (campaign.gov.uk) lle byddwch yn dod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol.

Os ydych yn cael budd-daliadau ar hyn o bryd, yna gall eich Anogwr Gwaith gynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth wedi’u teilwra i chi, fel rhan o DROS 50 OED: Dewisiadau.

Gallai hynny gynnwys, os ydych yn gymwys:

CYMORTH YCHWANEGOL

Mae help ychwanegol ar gael i chi hefyd os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd.

Os oes angen cymorth ariannol arnoch tra’n chwilio am swydd, darganfyddwch pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt.

Dychwelyd i’r Gwaith

Os ydych wedi cael cyfnod i ffwrdd o’r gwaith ac yn ystyried dychwelyd i’r gweithle, gall y pecyn cymorth hwn gan Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth roi cymorth ychwanegol i’ch helpu ar eich taith a gwybodaeth am y camau nesaf i’w cymryd.

Cymorth i Ofalwyr

Os ydych yn ofalwr neu’n gyn ofalwr, gallech fod yn gymwys i gael cymorth personol. Efallai y cewch help i gysylltu â chyflogwyr er enghraifft neu, paru eich sgiliau â swyddi gwag presennol neu help gyda hyfforddiant i ddod o hyd i waith i chi. Darganfyddwch fwy am y Rhaglen Waith ac Iechyd – GOV.UK (www.gov.uk)

Menopos a’r gweithle

Menywod 50 oed a throsodd yw’r rhan o’r gweithle sy’n tyfu gyflymaf, a gallant fynd drwy’r cyfnod pontio menopos yn ystod eu bywydau gwaith. Mae gennym ystod o ganllawiau ar gael i gyflogwyr ac unigolion i helpu i gefnogi sgyrsiau yn y gweithle, gan gynnwys yr adroddiad Menopos a Chyflogaeth diweddar a gomisiynwyd gan y Gweinidog Cyflogaeth yn DWP.

Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth ddefnyddio o’r sefydliadau canlynol:

Aviva: A guide to the menopause

ACAS: Menopause at work

NHS: Menopause overview

Mae gan ‘Rest Less’ filoedd o swyddi ar gael ledled y wlad gan gyflogwyr oedran amrywiol a dyma’r bwrdd swyddi mwyaf yn benodol ar gyfer pobl 50 oed a throsodd. Ewch i wefan Rest Less am ragor o fanylion.

Yn olaf, os ydych yn gweld bod eich chwiliad gwaith yn her, mae gwefan Age UK yn cynnig rhai adnoddau gwych i’ch helpu gyda phroblemau gwahaniaethu a’ch hawliau, ynghyd â gwybodaeth i’ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd neu ailhyfforddi ac awgrymiadau ar wella’ch gwybodaeth am dechnoleg.

YSTYRIWCH WAITH GWIRFODDOL

Gall gweithio yn eich pumdegau a chwedegau ac, os dymunwch, ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth helpu i gefnogi eich arian, iechyd a lles cymdeithasol yn ddiweddarach mewn bywyd.

Gall gwaith gwirfoddol fod yn ffordd wych o’ch helpu i gael sgiliau newydd a magu hyder mewn maes gwaith gwahanol. Darganfyddwch pa waith gwirfoddol sydd ar gael  ar wefan gov.uk neu cysylltwch â’ch canolfan wirfoddoli leol ar wefan NVCO.

Articles