Neidio i’r cynnwys
Young female barista smiling at work

Gwaith hyblyg a rhan-amser

Mae'r newidiadau y mae llawer o fusnesau wedi eu gwneud yn ystod y pandemig yn golygu na fu erioed fwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith hyblyg a rhan-amser.

Mathau o swyddi

Mae gwahanol ffyrdd o weithio’n hyblyg. O rannu swyddi, lle mae pobl yn gwneud un swydd ac yn rhannu’r oriau i rolau rhan-amser pan fyddwch yn gweithio llai o oriau neu lai o ddyddiau. Efallai y bydd yn bosibl gwneud rhywfaint neu’r cyfan o’ch gwaith gartref neu wneud oriau amser llawn ond dros lai o ddyddiau. Efallai y bydd ceiswyr gwaith hŷn hyd yn oed yn ystyried ymddeoliad graddol – lle gallwch leihau oriau a gweithio’n rhan amser, gan ddewis pryd rydych am ymddeol yn gyfan gwbl.

Anogwr Gwaith DWP yn gwenu mewn Canolfan Byd Gwaith

Canolfan Byd Gwaith

Mae Canolfan Byd Gwaith yn asiantaeth y llywodraeth sy’n cefnogi pobl o oedran gweithio o les i mewn i waith, ac yn helpu cyflogwyr i lenwi eu swyddi gwag. Gyda phresenoldeb ym mron pob ardal o’r DU, gallwch daro heibio’ch Canolfan Byd Gwaith leol i ofyn am help a chyngor yn ymwneud â chefnogaeth, budd-daliadau a gwasanaethau’r llywodraeth.

Erthyglau perthnasol