Os ydych yn cadw llygad am gyfle gwaith newydd, gallai’r sector manwerthu bwyd gynnig mwy nag yr ydych yn ei sylweddoli. Symudodd Dragos o’r sector lletygarwch i swydd newydd yn Sainsbury’s – gwyliwch y fideo hon i glywed am ei stori.
Dyma bedair myth poblogaidd am y sector, wedi’i chwalu …
“Rhaid bod gennych brofiad blaenorol ym maes manwerthu”
Nid oes angen i chi fod â phrofiad blaenorol ym maes manwerthu i wneud cais. Dechreuodd Dragos swydd newydd fel Cynorthwyydd Masnachu i Sainsbury’s ar ôl colli ei swydd yn y sector lletygarwch. Nid oedd ganddo unrhyw brofiad blaenorol yn y sector manwerthu bwyd. Roedd ei sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwasanaethau cwsmeriaid ac amldasgio, yn ddefnyddiol ar gyfer trosglwyddo i’w rôl newydd.
“Mae’n sector heb unrhyw gyfleoedd i symud ymlaen”
Os oes gennych uchelgais, mae cyfleoedd i symud ymlaen ar gael ym maes manwerthu. Dechreuodd Dragos swydd newydd fel Cynorthwyydd Masnachu i Sainsbury’s heb unrhyw brofiad blaenorol yn y sector manwerthu ac fe’i ddyrchafwyd yn rheolwr yn y siop yn eithaf cyflym.
“Mae cyflogau’n wael”
Mae gan lawer o swyddi ym maes manwerthu bwyd gyflogau mynediad isel ond fel arfer mae potensial i enillion godi. Mae cyfleoedd i symud ymlaen i reoli siopau; mae swyddi lefel mynediad yn dechrau ar oddeutu £17,472 y flwyddyn tra gall y gweithwyr mwyaf profiadol wneud hyd at £42,500 y flwyddyn (Ffynhonnell: gwefan Neuvoo, Talent.com).
“Nid yw’n ddiogel gweithio mewn siop”
Mae gan fanwerthwyr bwyd fesurau ar waith i’ch cadw’n ddiogel. Cyn ymgeisio am y rôl yn Sainsbury’s, roedd gan Dragos ei bryderon ynghylch diogelwch ond cafodd fasgiau, menig a glanweithydd dwylo, a chafodd ei sicrhau gan yr amddiffyniad a oedd ar waith.
Yn barod i ymgeisio?
Dyma awgrymiadau da Dragos i sicrhau swydd yn y sector manwerthu bwyd.
Sut i ymgeisio
Chwiliwch ac ymgeisiwch am swyddi ym maes manwerthu bwyd ar wefan Dod o hyd i swydd.