Neidio i’r cynnwys

Sector cyhoeddus

Y sector cyhoeddus yw’r term cyffredinol ar gyfer ystod eang o yrfaoedd a swyddi mewn llywodraeth ganolog a llywodraeth leol a gwasanaethau rheng flaen, fel nyrs neu mewn canolfan waith.

MATHAU O ROLAU

Mae’r graddfa a’r ystod o yrfaoedd mewn gwasanaeth cyhoeddus yn eang. Efallai eich bod yn ymwybodol o lawer fel nyrsio, bod yn feddyg, parafeddyg neu’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, hyd at fod yn heddwas, yn athro neu’n weithiwr cymdeithasol. 

Ond, oeddech chi’n gwybod y gallech chi weithio fel gweithiwr llu’r ffiniau mewn meysydd awyr neu borthladdoedd, swyddog cynllunio, arolygydd iechyd a diogelwch neu hyd yn oed rheolwr traffig awyr o fewn y sector cyhoeddus? Mae amrywiaeth o broffesiynau yn y gwasanaeth sifil hefyd ac amrywiaeth eang o rolau yn adrannau’r llywodraeth. 

Manteision o weithio yn y sector cyhoeddus

  • Mae’n yrfa werth chweil lle gallwch gyfrannu at gymdeithas.
  • Gallwch wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau a chymunedau pobl. Mae ei angen bob dydd, nid dim ond mewn argyfyngau.
  • Mae gyrfa yn y sector cyhoeddus yn cynnig tâl, sefydlogrwydd a buddion rhesymol.
  • Gallwch ddatblygu’n barhaus drwy gydol eich gyrfa, a chymryd amrywiaeth o lwybrau gyrfa neu broffesiynau. Mae graddfa ac ystod y gyrfaoedd sydd ar gael yn unigryw.
  • Rydych chi’n cael gweithio gyda chydweithwyr talentog sy’n dod ag egni, yn mynd y milltir ychwanegol a’n darparu er lles y cyhoedd.
  • Mae’n ddeinamig, yn gyflym  ac yn arloesol. Mae’n gofyn am bobl sy’n gallu meddwl a gweithredu’n gyflym, a darparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ffyrdd newydd.
  • Byddwch yn cael cyfle i weithio ar brosiectau mawr ar draws y wlad.

Adnoddau

Os ydych chi'n chwilio am swydd yn y sector cyhoeddus, mae'r adnoddau hyn yn lle gwych i ddechrau.

Menyw yn addysgu myfyrwyr meithrin

Sgiliau Dymunol

Ar gyfer llawer o rolau, bydd angen profiad neu gymwysterau, er ei bod yn bwysig cofio, ar gyfer rhai swyddi yn y sector cyhoeddus, bod y rhan fwyaf angen agwedd gadarnhaol a sgiliau trosglwyddadwy. Mae sgiliau cyfathrebu da, datrys problemau a hyblygrwydd, sgiliau cyfrifiadurol, bod yn drefnus a gallu gweithio ar gyflymder i gyd yn briodoleddau allweddol ar gyfer rôl yn y sector cyhoeddus. 

Dysgwch fwy am sgiliau a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd