Neidio i’r cynnwys

Swyddi gwag presennol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau

 

Ar hyn o bryd mae’r DWP yn recriwtio Asiantau Adolygu Achos Credyd Cynhwysol ac Anogwyr Gwaith.

Mae Asiantau Adolygu Achos yn gyfrifol am reoli adolygiadau ceisiadau Credyd Cynhwysol a chynnal cyfweliadau â hawlwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau dros y ffôn neu yn bersonol.

Mae Anogwyr Gwaith yn rhoi cyngor i hawlwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan eu cefnogi i ddod o hyd i waith a’u helpu i gael mynediad i’n gwasanaethau.

Os ydych yn chwilio am rôl ddiddorol a heriol sy’n rhoi’r cam cyntaf i chi ar yrfa yn y gwasanaeth sifil, yna darganfyddwch fwy ar dudalen swyddi’r DWP (gwefan allanol).

Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i weithio’n hyblyg i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau cartref, dysgu a datblygu yn y gwaith, ynghyd â phecyn buddion cynhwysfawr.