Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd o fewn amaethyddiaeth o gynaeafu ffrwythau a llysiau hyd at logisteg, cynhyrchu bwyd a swyddi rheoli.
Mae ffermio modern yn defnyddio technoleg flaengar i gadw i fyny â’r galw cynyddol. Gallech fod yn rhan o brofi ffyrdd arloesol i ddatrys problemau.
Bydd angen i chi fod yn ffit yn gorfforol gan y byddwch yn gweithio ar eich traed trwy’r dydd, ym mhob tywydd.
Ar rai adegau o’r flwyddyn efallai y gofynnir i chi weithio diwrnodau hir, ond yn gyffredinol gallwch ennill goramser am hyn. Gall eich oriau hyblyg gynnwys penwythnosau.
Oherwydd yr oriau hyn, bydd angen i chi fyw’n agos at, neu mewn rhai achosion byw ar y fferm lle rydych yn gweithio, ond bydd hyn yn amrywio rhwng swyddi a gallwch drafod hyn gyda’r fferm rydych yn gwneud cais iddi.
Mae llawer o’r gwaith yn frwnt felly bydd angen i chi wisgo dillad amddiffynnol addas.
Gallwch ddisgwyl ennill unrhyw le rhwng £12k a £18k y flwyddyn gan godi i fwy na £23k wrth i chi gynyddu eich sgiliau a’ch profiad, a chymryd mwy o gyfrifoldebau.
Efallai y cewch hefyd lety a allai fod am ddim neu’n rhad iawn.