Os ydych chi’n ddi-waith hirdymor, neu os yw’ch amgylchiadau personol yn ei gwneud hi’n anoddach i chi ddod o hyd i swydd, bydd cyflogwyr lletygarwch yn aml yn ystyried eich cyflwyno ar gyfer lleoliadau, profiad gwaith neu dreialon gwaith. Os ydych yn barod i ddarganfod pa anturiaethau allai aros amdanoch chi yn y sector lletygarwch, mae’r cyfleoedd yn aros amdanoch chi ar hyn o bryd!
Mae yna nifer o broffesiynau medrus yn y sector, ac mae sawl un wedi’u cynnwys ar restr llwybrau Gweithiwr Medrus y llywodraeth. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Tafarnwyr a rheolwyr lleoliadau trwyddedig
- Rheolwyr hamdden a chwaraeon
- Rheolwyr a threfnwyr cynadleddau ac arddangosfeydd
- Cogyddion
- Rheolwyr arlwyo a bar
- Rheolwyr a pherchnogion bwytai a sefydliadau arlwyo
Oeddech chi’n gwybod bod cyflog cyfartalog y sector lletygarwch yn dechrau rhwng £16,000 a £21,000 ac mae’r ffigurau hyn yn codi. Mae digonedd o gyfleoedd dilyniant yn bodoli ac mae enghreifftiau niferus o unigolion yn dechrau ar y gwaelod ac yn symud ymlaen i lefel yr ystafell reoli o fewn y sector. Gall swyddi rheoli yn gynnig cyflogau dros £28,000 y flwyddyn.