Neidio i’r cynnwys

Warws a dosbarthu

Mae cael swydd ym maes warysau a dosbarthu yn golygu y byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw'r wlad i fynd - pacio archebion ar-lein, sicrhau bod bwyd ar silffoedd ein harchfarchnadoedd a chael nwyddau i'r man lle mae eu hangen. Mae gyrfa yn y sector hwn yn berffaith os ydych chi'n mwynhau bod yn egnïol, gweithio y tu ôl i'r llenni a cheisio rôl amrywiol ond gwerth chweil.

Mathau o rolau

Mae ystod o swyddi yn y sector – gweithio gyda stoc, pacio archebion a gyrru tryciau fforch godi. P’un a ydych yn pigo, pacio, sortio neu sganio, gallai fod swydd berffaith i chi.

Gall rolau gynnwys:

  • derbyn nwyddau a’u storio
  • gwirio am eitemau sydd wedi’u difrodi neu ar goll
  • symud stoc â llaw neu gydag offer a/neu beiriannau
  • pacio a lapio nwyddau
  • llwytho nwyddau i’w hanfon
  • cadw cofnodion stoc
  • glanhau a thacluso’r warws

Mae’r cyflog ar gyfartaledd oddeutu £21,000 y flwyddyn.

Mae rhai cwmnïau sy’n recriwtio ar gyfer rolau warysau a dosbarthu ar hyn o bryd yn cynnwys:

Mae gan Amazon amrywiaeth o rolau ar gael ym maes warysau, gan gynnwys Gweithredwyr Warws a Gweithredwyr Dosbarthu ledled y DU. Ewch i wefan Jobs at Amazon .

Mae ‘Clipper’ yn recriwtio ar gyfer Gweithredwyr Warws a rolau warysau amrywiol gan gynnwys Arweinwyr Tîm a rolau rheoli. Gellir gweld swyddi gwag ar wefan Clipper.

Manteision gweithio ym maes warysau

  • Gall gweithio ym maes warysau ofyn am waith corfforol ac weithiau technegol, gan gynnwys symud a chodi eitemau, yn ogystal â gweithredu peiriannau.
  • Mae’r sector yn fwy a fwy uwch-dechnoleg ac yn darparu cyfleoedd gwych i ddysgu sgiliau newydd.
  • Efallai y byddwch yn gweithio gyda thechnoleg llais, offer casglu awtomataidd a cherbydau tywys awtomataidd.
  • Gallwch hefyd ennill sgiliau mwy traddodiadol fel gyrru fforch godi a pheiriannau gweithredu ac mae rhai cwmnïau’n darparu hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch, trefnu a rheoli amser.

Sgiliau dymunol

Mae ystod o wahanol sgiliau y gallai fod eu hangen arnoch chi ar gyfer swyddi warws neu a allai fod yn fantais wirioneddol wrth wneud cais am un. Mae’r rhain yn cynnwys rhoi sylw i fanylion, gweithio’n dda mewn timau, meddwl yn gyflym a chyfathrebu da. Efallai eich bod eisoes wedi datblygu’r sgiliau hynny o swyddi eraill neu brofiad bywyd.

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol arnoch o reidrwydd, ond mae rhai cyflogwyr yn gofyn am TGAU gradd 4 (C) mewn Saesneg a Mathemateg, neu gymwysterau cyfatebol. Efallai y bydd angen rhai sgiliau TG sylfaenol arnoch chi hefyd.

Dysgu mwy

Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb mewn

Gweithio'n ddiogel yn ystod Coronafeirws

Canllawiau i bobl sy'n gweithio mewn amgylcheddau gwaith awyr agored neu'n eu rhedeg.

Ewch i'r safle

Sectorau eraill sy’n cyflogi ar hyn o bryd