Neidio i’r cynnwys

Sut i gael i mewn i fancio a beth i’w ddisgwyl

Hands scrolling through financial market data on a mobile phone

Meddwl am yrfa newydd mewn bancio? Dyma beth sydd rhaid i chi wybod am sgiliau cyflog, beth i’w ddisgwyl yn y swydd, a rhagor.

Mae sector bancio yn cwmpasu llawer o feysydd gwaith – a pheidiwch â meddwl nad ydynt mond yn edrych am bobl sydd â graddau, oherwydd nad ydynt. Mae siawns dda bod gennych y sgiliau maent yn chwilio amdanynt.

Pa sgiliau rwyf eu hangen?

Mae llawer o sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swyddi mewn bancio. Mae’n rhain yn cynnwys:

  • llygad am y manylion
  • sgiliau trefnu cryf
  • sgiliau cyfrifiadurol da
  • sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da
  • sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar
  • sgiliau rhifol cryf

Pa fath o swyddi sydd ar gael?

Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o swyddi sydd ar gael:

  • ymgynghorwyr a rheolwyr gwasanaeth cwsmeriaid canghennau banc
  • ymgynghorwyr a rheolwyr gwasanaeth cwsmeriaid canolfannau gwasanaeth
  • ymgynghorwyr gwe-sgyrsio
  • cymorth digidol
  • cymorth TG
  • ymgynghorwyr arbenigol ar fancio – morgeisi, benthyciadau, ayyb.
  • swyddi yn y pencadlys – gan gynnwys AD, Cyllid, Marchnata

Pa gymwysterau a phrofiad rwyf eu hangen?

Mae disgwyl i rai gweithwyr proffesiynol mewn bancio manwerthu gael o leiaf pedair gradd TGAU 9-4/A*-C neu gyfwerth, gan basio yn Saesneg a Mathemateg. Yn gyffredinol maent yn dechrau mewn swydd gwasanaethau cwsmeriaid cyffredinol, gan helpu cwsmeriaid y banc â’u gofynion. Wrth iddynt fynd yn eu blaen, gallwch ddewis arbenigo mewn mathau penodol o gynnyrch neu hyd yn oed mewn cysylltiadau cwsmeriaid.

Gall gweithwyr proffesiynol mewn bancio manwerthu gweithio eu ffordd i fyny i reoli cangen neu ganolfan gwasanaeth a gellir eu dyrchafu i swyddi uwchreoli hyd yn oed.

Graddedigion

Mae gan lawer o gyflogwyr gynlluniau graddedigion, interniaethau, a phrenitisiaethau uwch mewn lle i nifer o swyddi o fewn y sector.

Beth mae’r sector yn ei gynnig i mi?

  • mae pob lefel o brentisiaeth ar gael
  • mae hyfforddiant mewnol ar gael fel arfer i gael dyrchafiad – mae’n well gan y rhan fwyaf o fanciau hyfforddi a dyrchafu eu staff eu hunain – felly’r unig ffordd yw i fyny
  • os ydych yn chwilio am waith hyblyg, mae swyddi rhan-amser i’w cael yn aml

Beth gallaf ei ddisgwyl?

  • yr ystod eang o gyfleoedd: mae’r sector bancio yn y DU yn enfawr. Mae gweithio i fanc mor amrywiol, gallai olygu gwaithio yn y pencadlys mewn marchnata, adnoddau dynol, neu mewn sawl swydd arall gan gynnwys TG.
  • datblygiad: gan fod sefydliadau bancio mor fawr, mae bob tro gyfleoedd i fynd ymlaen yn y sefydliad ac i mewn i swyddi eraill. Yn aml mae swyddi’n cael ei hysbysebu’n fewnol gyntaf, felly unwaith eich bod i mewn i sefydliad chi fydd y cyntaf i wybod am swyddi gwag.
  • hyfforddiant: mae banciau’n adnabyddus am gael staff sydd wedi eu hyfforddi’n dda felly beth bynnag fo’ch swydd, cewch y sgiliau sydd angen arnoch i wneud y swydd a gellir trosglwyddo llawer o’r sgiliau hyn i ddiwydiannau eraill petasech yn penderfynu symud ymlaen.
  • buddion a chyflog: mae cyflogau mewn bancio yn gystadleuol ac yn aml mae cyflogwyr mawr ym maes bancio yn cynnig buddion ardderchog ychwanegol fel gofal iechyd preifat a gostyngiadau â manwerthwyr mawr. Yn aml gall gweithwyr banciau gael gostyngiadau ar forgeisi, benthyciadau, a chardiau credyd gan eu cyflogwyr ar ôl cyfnod penodol.
  • bri: caiff bancio ei weld fel gyrfa dyunol, mawr ei fri, ac mae’n cael ei ystyried i fod yn fwy diogel na sectorau eraill fel manwerthu neu neu ffasiwn.

Pethau efallai bydd rhaid i chi eu hystyried

  • efallai bydd rhaid gwneud gwiriadau cefndir: mae rhai swyddi’n gofyn am wiriadau gan yr heddlu i gefndir yr ymgeisydd. Mae hyn yn debyg i wiriadau DBS ac y golygu efallai caiff pobl sydd â chollfarnau am dwyll, lladrad, a throseddau eraill eu rhwystro rhag cymryd swydd yn trin ag arian neu â chyfrifoldeb am arian.
  • newidiadau cyflym: mae bancio manwerthu wedi ei drawsnewid dros y degawd diwethaf trwy dechnoleg digidol. Ni fydd cyflymdra’r newidiadau’n arafu, ac mae’n debyg nid hon fydd yr yrfa i chi os ydych yn hoffi pethau i fod yn llonydd a sefydlog.
  • eich rhifedd: nid yw gweithio â rhifau trwy’r dydd i bawb, ac mae llawer o bobl fwy creadigol yn ei chael yn cyfyngol ac yn ddiflas os yw eu swyddi’n cael eu cyfyngu gan rheolau a rheolaethau.

Beth am y cyflog?

Bydd hyn yn dibynnu ar ble rydych yn gweithio, pa fath o swydd, a lefel eich profiad pan fyddwch yn dechrau’ch cyflogaeth.

Efallai byddwch yn gwethio’n llawn neu rhan-amser a chewch eich talu yn unol â faint o oriau byddwch yn gweithio bob wythnos. Ar gyfartaledd, byddwch bob tro yn cael eich talu isafswm cyflog cenedlaethol/cyflog byw ar gyfer yr oriau byddwch yn gweithio mewn cyfnod talu, gellir dod o hyd i fwy o fanylion ar wefan GOV.UK. Gall cyflogau gynyddu’n gyflym os byddwch yn ennill cymwysterau proffesiynol.

Gallwch gynyddu’ch gyflog sylfaenol â bonysau cwmni ac mae cyfleoedd da i fynd ymlaen. Mae rhai banciau’n cynnig buddion gweithwyr ychwanegol, fel gofal iechyd preifat, cynlluniau pensiwn ac aelodaeth clybiau chwaraeon.

Wrth i chi ennill cymwysterau a phrofiad gall eich cyflog gynyddu.

Rhai ffeithiau diddorol am fanciau yn y DU

  • maent yn cyflogi 0.5 miliwn o bobl
  • mae banciau a gwasanaethau ariannol yn cyfrannu £70bn i allbwn cenedlaethol y DU (6.8% o GDP)
  • mae banciau a gwasanaethau ariannol yn darparu 25% o’r holl dreth gorfforaethol (£8bn) i Lywodraeth y DU
  • mae’r prif fanciau manwerthu yn darparu dros 125 miliwn o gyfrifon, yn clirio 7bn o drafodiadau bob blwyddyn ac yn hwyluso 2.3bn alldyniadau arian bob blwyddyn o’u rhwydwaith o dros 30,000 o ATMs am ddim
  • mae banciau’n darparu gwasanaethau bancio i 95% o boblogaeth y DU
  • gwerth y busnes cyfnewidfa dramor a gaiff ei basio trwy Lundain bob dydd yw £560bn ($1 triliwn)

Barod i wneud cais? Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd yn y sector hwn defnyddiwch y dolenni isod:   

Gwefan Dod o Hyd i Swydd
Gwefan Prospects
Gwefan y Gwasanaeth Gyrfa Cenedlaethol

Neu ewch i wefannau recriwtio’r 10 Banc Manwerthu mwyaf y DU

  1. Gwefan HSBC
  2. Gwefan Royal Bank of Scotland
  3. Gwefan Lloyds Banking Group
  4. Gwefan Halifax (eiddo Lloyds Banking Group)
  5. Gwefan Bank of Scotland (eiddo Lloyds Banking Group)
  6. Gwefan Barclays
  7. Gwefan Santander
  8. Gwefan Co-operative
  9. Gwefan Nationwide(yn y dosbarth cymdeithasau adeiladu)
  10. Gwefan TSB

Erthyglau