Neidio i’r cynnwys

Chwilio am waith os ydych yn anabl

Dwy fenyw, un mewn cadair olwyn yn gweithio gyda'i gilydd o amgylch gliniadur. Yn cysylltu i Chwilio am waith os ydych yn anabl

Dros y degawdau diwethaf rydym wedi gweld newidiadau gwirioneddol yn niwylliant gweithle yn y DU ond gall gwneud cais am swydd fod yn anodd o hyd os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor. Ond peidiwch â phoeni, mae llawer o gymorth ar gael i’ch helpu a’ch arwain.

Pa gymorth sydd ar gael?

Os ydych yn cael budd-daliadau, mae eich Canolfan Gwaith leol yn lle gwych i ddechrau. Gall anogwyr gwaith eich helpu i ddod o hyd i swydd neu ennill sgiliau newydd. Byddant hefyd yn gwybod am gyflogwyr sy’n gyfeillgar i anabledd yn eich ardal.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, gallant hefyd eich cyfeirio at ‘asesiad cyflogaeth’ i gael gwybod mwy am eich sgiliau a’ch profiad, a’r math o rolau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, mae cynlluniau ac adnoddau ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i swydd a’i chadw. Gofynnwch am y rhain yn eich Canolfan Gwaith leol:

 

Dod o hyd i swydd

  • Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau chwilio am swydd, dilynwch ein pedwar cam hawdd i  wella’ch siawns o ddod o hyd i waith.
  • Chwiliwch am gyflogwyr Hyderus o ran Anabledd – Cynllun a gefnogir gan y Llywodraeth yw Hyderus o ran Anabledd (gwefan allanol) sy’n hyrwyddo arferion cyflogwyr da i gefnogi pobl anabl i gael gwaith. Felly gallwch fod yn hyderus wrth gysylltu â chwmni cofrestredig am addasiadau yn y gweithle, fformatau cyfweliad amgen neu unrhyw help arall sydd ei angen arnoch i ddod i mewn a symud ymlaen yn eu cwmni.
  • Os ydych am chwilio am swyddi gwag, defnyddiwch wasanaeth Dod o hyd i Swydd (gwefan allanol). Mae digon o safleoedd swyddi eraill hefyd ar gael. Ceisiwch chwilio am ‘swyddi’ yn Google, neu gwnewch eich chwiliad yn fwy penodol i ddod o hyd i safleoedd sy’n arbenigo mewn anabledd a gwaith, fel ‘safleoedd swyddi anabledd’.
  • Bydd gan rai diwydiannau fwy o swyddi nag eraill. Gallwch ddarllen mwy am y mathau o swyddi sy’n fwy tebygol o fod ar gael. Mae gwybodaeth hefyd i’ch helpu i ddechrau mewn diwydiant nad ydych wedi gweithio ynddo o’r blaen.

 

Gweithio hyblyg

  • Os na allwch weithio’n llawn amser, nid yw’n golygu na allwch weithio o gwbl.
  • Gallai gweithio hyblyg fod yn opsiwn gwych i chi os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd.
  • Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig gweithio hyblyg sy’n cynnwys rhannu swyddi a gwaith rhan-amser fel y gallwch fod yn gweithio ac yn ennill cyflog mewn ffordd sy’n gweithio i chi. Efallai y byddant hefyd yn cynnig cyfle i weithio gartref neu mewn lleoliad gwahanol.
  • Darganfyddwch fwy ar dudalen gweithio hyblyg.

 

Datblygu eich sgiliau