Dros y degawdau diwethaf rydym wedi gweld newidiadau gwirioneddol yn niwylliant gweithle yn y DU ond gall gwneud cais am swydd fod yn anodd o hyd os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor. Ond peidiwch â phoeni, mae llawer o gymorth ar gael i’ch helpu a’ch arwain.
Pa gymorth sydd ar gael?
Os ydych yn cael budd-daliadau, mae eich Canolfan Gwaith leol yn lle gwych i ddechrau. Gall anogwyr gwaith eich helpu i ddod o hyd i swydd neu ennill sgiliau newydd. Byddant hefyd yn gwybod am gyflogwyr sy’n gyfeillgar i anabledd yn eich ardal.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, gallant hefyd eich cyfeirio at ‘asesiad cyflogaeth’ i gael gwybod mwy am eich sgiliau a’ch profiad, a’r math o rolau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, mae cynlluniau ac adnoddau ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i swydd a’i chadw. Gofynnwch am y rhain yn eich Canolfan Gwaith leol:
- Gall Mynediad at Waith (gwefan allanol) eich helpu i gael neu aros mewn gwaith os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd. Bydd y cymorth a gewch yn dibynnu ar eich anghenion. Gall gynnwys, er enghraifft, grant i dalu am gymorth ymarferol yn y gwaith neu arian i dalu am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliadau swydd.
- Mae Rhaglen Waith ac Iechyd (gwefan allanol) yn eich helpu i ddod o hyd i swydd a’i chadw os ydych yn ddi-waith. Gall cymorth personol gynnwys hyfforddiant i helpu i ddiwallu eich anghenion gwaith a’ch rhoi mewn cysylltiad â chyflogwyr.
- Mae Cymorth Cyflogaeth Personol Dwys (IPES) (gwefan allanol) yn gymorth a hyfforddiant un-i-un i’ch helpu i gael gwaith os ydych yn ddi-waith a bod gennych anabledd sy’n effeithio ar y gwaith y gallwch ei wneud.
- Gellir dod o hyd i gyngor ar faterion iechyd meddwl hefyd drwy Every Mind Matters (gwefan allanol).
Dod o hyd i swydd
- Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau chwilio am swydd, dilynwch ein pedwar cam hawdd i wella’ch siawns o ddod o hyd i waith.
- Chwiliwch am gyflogwyr Hyderus o ran Anabledd – Cynllun a gefnogir gan y Llywodraeth yw Hyderus o ran Anabledd (gwefan allanol) sy’n hyrwyddo arferion cyflogwyr da i gefnogi pobl anabl i gael gwaith. Felly gallwch fod yn hyderus wrth gysylltu â chwmni cofrestredig am addasiadau yn y gweithle, fformatau cyfweliad amgen neu unrhyw help arall sydd ei angen arnoch i ddod i mewn a symud ymlaen yn eu cwmni.
- Os ydych am chwilio am swyddi gwag, defnyddiwch wasanaeth Dod o hyd i Swydd (gwefan allanol). Mae digon o safleoedd swyddi eraill hefyd ar gael. Ceisiwch chwilio am ‘swyddi’ yn Google, neu gwnewch eich chwiliad yn fwy penodol i ddod o hyd i safleoedd sy’n arbenigo mewn anabledd a gwaith, fel ‘safleoedd swyddi anabledd’.
- Bydd gan rai diwydiannau fwy o swyddi nag eraill. Gallwch ddarllen mwy am y mathau o swyddi sy’n fwy tebygol o fod ar gael. Mae gwybodaeth hefyd i’ch helpu i ddechrau mewn diwydiant nad ydych wedi gweithio ynddo o’r blaen.
- Angen diweddaru eich CV neu greu un newydd? Gall ein tudalen CVs a llythyrau eglurhaol
Gweithio hyblyg
- Os na allwch weithio’n llawn amser, nid yw’n golygu na allwch weithio o gwbl.
- Gallai gweithio hyblyg fod yn opsiwn gwych i chi os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd.
- Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig gweithio hyblyg sy’n cynnwys rhannu swyddi a gwaith rhan-amser fel y gallwch fod yn gweithio ac yn ennill cyflog mewn ffordd sy’n gweithio i chi. Efallai y byddant hefyd yn cynnig cyfle i weithio gartref neu mewn lleoliad gwahanol.
- Darganfyddwch fwy ar dudalen gweithio hyblyg.
Datblygu eich sgiliau
- Gall gwefan Skills for Life (gwefan allanol) eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd dysgu a chymwysterau newydd i wella’ch siawns o ddod o hyd i waith.
- Darganfyddwch fwy am gyfleoedd sgiliau a hyfforddiant, yn y gwaith ac oddi arno, ar ein tudalen Sgiliau a hyfforddiant yn y gwaith.
Mae fersiwn hawdd ei darllen o’r dudalen hon ar gael.