Neidio i’r cynnwys

Cymorth Dod o Hyd i Swydd

Os ydych wedi bod yn ddi-waith ac yn hawlio budd-daliadau, efallai y byddwch yn addas ar gyfer Cymorth Dod o Hyd i Swydd.

Ar gael I:

Unrhyw un sy’n ddi-waith ac yn hawlio budd-daliadau am hyd at 13 wythnos

Hyd:

O leiaf 4 awr o gefnogaeth

Lleoliad:

Cymru, Lloegr, Yr Alban

Cyfyngiad Oed:

All ages

Sut I wneud cais:

Siaradwch â'ch anogwr gwaith

Two women pointing to and discussing a laptop screen

Mae Cymorth Dod o Hyd i Swydd yn cynnig cefnogaeth un i un wedi’i theilwra i’ch helpu i ddychwelyd i’r gwaith. Mae wedi’i anelu at bobl sydd wedi bod yn ddi-waith ac yn hawlio budd-daliadau am hyd at 13 wythnos ac sydd angen cymorth cyswllt ysgafn i ddod o hyd i waith newydd.

Byddwch yn cael cynnig o leiaf 4 awr o gefnogaeth ddigidol un i un wedi’i theilwra gydag ymgynghorydd arbenigol, ac o leiaf un sesiwn grŵp hefyd.

Byddwch yn derbyn ystod o gymorth ymarferol i’ch helpu gyda’ch chwiliad gwaith a allai gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:

  • helpu i nodi’ch sgiliau trosglwyddadwy
  • cyngor am ddiwydiannau twf a swyddi yn eich ardal chi
  • paru swyddi â swyddi gwag addas
  • cyngor/dolenni i gyflogwyr addas
  • ffug gyfweliad gydag adborth ac arweiniad defnyddiol

Mae Cymorth Dod o Hyd i Swydd yn rhan o Gynllun Swyddi’r Llywodraeth i helpu pobl yn ôl i mewn i waith.

Ydw i’n gymwys a sut mae gwneud cais?

Mae Cymorth Dod o Hyd i Swydd ar gael i bobl sydd wedi bod yn derbyn budd-daliadau yn lle incwm (gwefan Credyd Cynhwysol, gwefan JSA Dull Newydd a gwefan ESA Dull Newydd) am lai na 13 wythnos. Siaradwch â’ch Anogwr Gwaith os ydych eisiau gwybod mwy.

Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys neu’n addas ar gyfer Cymorth Dod o Hyd i Swydd, gall eich anogwr gwaith gynnig ystod eang o gefnogaeth a chyngor arall, a threfnu eich bod yn cael mynediad at gymorth ychwanegol gan arbenigwyr hefyd.

MWY O WASANAETHAU

Erthyglau