Neidio i’r cynnwys
Collage o ddau ddyn mewn ffatri ddiwydiannol, het galed felen a dynes wrth liniadur gyda phlentyn

Eisiau dechrau chwilio am waith eto?

Mae llawer o resymau pam y gallech fod wedi rhoi'r gorau i weithio, ond mae llawer o bobl sydd wedi symud i ffwrdd o gyflogaeth yn gweld y gallai mynd yn ôl i'r gwaith fod yn addas iddynt hwy. Os ydych chi wedi rhoi'r gorau i chwilio am waith ond yn meddwl efallai y byddwch eisiau ei ystyried eto, gallai ein cyngor eich helpu i ail-ddechrau chwilio am waith.

Efallai eich bod wedi rhoi’r gorau i’r gwaith i ofalu am berthynas, am rhesymau iechyd eich hun, i fagu teulu, neu ond oherwydd eich bod wastad wedi bod yn awyddus i ymddeol yn gynnar. Ond mae mwy a mwy o bobl fel chi’n gweld y gallai dychwelyd i’r gwaith fod yr opsiwn gorau iddynt.

Os nad ydych yn siwr ble i ddechrau gyda’ch chwilio am waith, bydd ein pedwar cam i ddod o hyd i waith yn helpu.

Neu cymerwch olwg ar yr erthyglau a’r adnoddau canlynol ar gyfer cyngor ar opsiynau gweithio hyblyg, help gyda gofal plant, chwilio am waith os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, neu os ydych chi’n 50 a throsodd ac yn ystyried ‘di-ymddeol’.