Neidio i’r cynnwys

EICH HELPU CHI I ENNILL MWY O WEITHIO

Menyw yn gweithio wrth ddesg yn defnyddio cyfrifiannell. Yn cysylltu i Helpu chi i ennill mwy o waith

Os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol ac yn symud i swydd, mae yna ychydig o bethau y mae angen i chi wybod amdanynt a all helpu i hybu’ch cyllid:

  • Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn parhau i dderbyn eich holl daliadau Credyd Cynhwysol, os ydych yn ennill o dan swm penodol
  • Hyd yn oed os yw eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu heffeithio, byddant ond yn lleihau’n raddol wrth i chi ennill mwy
  • Gallwch wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant
  • Gallwch edrych ar gyfleoedd i weithio oriau ychwanegol ac ennill mwy o arian, neu hyd yn oed ymgymryd ag ail swydd, a gallech barhau i gael taliadau Credyd Cynhwysol.   
  • Bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn addasu’n awtomatig os bydd eich enillion yn newid. Does dim ots faint o oriau rydych chi’n gweithio, yr enillion gwirioneddol rydych chi’n eu derbyn sy’n cyfrif.

Cymorth a chyngor gan y Ganolfan Byd Gwaith

Bydd dal gennych fynediad i’ch Anogwr gwaith tra byddwch mewn gwaith:

  • Ni fyddant yn gwneud apwyntiad gorfodol gyda chi sy’n gwrthdaro â’ch oriau gwaith.
  • Maen nhw’n ffynhonnell wych ar gyfer awgrymiadau ar sut i wella eich sgiliau neu gael cymwysterau pellach i hybu’ch incwm lle rydych chi.
  • Darllenwch fwy ar Ddeall Credyd Cynhwysol.

Sut mae enillion yn effeithio ar Gredyd Cynhwysol   

  • Os ydych yn ennill arian o waith,  bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng 55c am bob £1 yr ydych yn ei ennill.
  • Bydd cyfanswm eich incwm o enillion a Chredyd Cynhwysol yn fwy nag o Gredyd Cynhwysol yn unig
  • Os ydych yn rhan o gwpl ac yn derbyn taliad Credyd Cynhwysol ar y cyd, bydd enillion y ddau ohonoch yn cael eu defnyddio i gyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.
  • Darganfyddwch fwy am sut mae enillion yn effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol misol.

Lwfans Gwaith

Os ydych chi a/neu eich partner mewn gwaith cyflogedig, efallai y gallwch chi ennill swm penodol cyn i’ch taliad Credyd Cynhwysol ddechrau cael ei effeithio. Lwfans Gwaith yw’r enw ar hyn.

Mae’r Lwfans Gwaith dim ond yn berthnasol i chi os:

  • oes gennych gyfrifoldeb am un neu fwy o blant (neu bobl ifanc cymwys), neu
  • mae gennych chi neu’ch partner allu cyfyngedig i weithio (cyflwr iechyd neu anabledd)

Os nad yw un o’r amgylchiadau hyn yn berthnasol i chi, gall eich taliadau Credyd Cynhwysol cael eu heffeithio a’u lleihau’n raddol cyn gynted ag y byddwch yn dechrau ennill arian o waith cyflogedig.

Costau gofal plant

  • Os ydych chi’n gweithio, neu mae gennych gynnig swydd, efallai y byddwch yn gallu hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a chwrdd â rhai amodau ychwanegol. Darganfyddwch am gymorth sydd ar gael gyda chostau gofal plant os ydych ar Gredyd Cynhwysol
  • Mae rhieni sy’n gweithio ar Gredyd Cynhwysol bellach yn gallu derbyn cymorth ariannol pellach gyda’u costau gofal plant. Gallai hyn fod hyd at £951 ar gyfer 1 plentyn, neu hyd at £1,630 ar gyfer 2 neu fwy o blant. Mae rhieni cymwys sy’n hawlio Credyd Cynhwysol hefyd yn gallu cael help gyda’u gofal plant ymlaen llaw, fel y gallant dalu eu set nesaf o gostau yn haws.
  • Dylai rhieni sy’n symud i waith neu’n cynyddu eu horiau gwaith siarad â’u anogwr gwaith Credyd Cynhwysol a all ddarparu mwy o wybodaeth.