Neidio i’r cynnwys

Gweithio Hyblyg

Menyw yn addysgu myfyrwyr meithrin

Os ydych yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod i ffwrdd, neu os oes gennych broblemau iechyd neu gyfrifoldebau gofalu, efallai mai archwilio cyfleoedd gwaith hyblyg yw’r union beth i chi.

Beth yw gweithio’n hyblyg?

Mae gweithio hyblyg yn disgrifio ffordd o weithio sy’n gweddu i anghenion gweithiwr, yn ogystal â’r cyflogwr.

Wrth i’r byd gwaith foderneiddio, mae cyflogwyr yn cyflwyno arferion gwaith mwy hyblyg i recriwtio ac ail-lunio’r dalent orau.

Enghreifftiau o weithio hyblyg:

  • Gwaith rhan-amser – gweithio llai o oriau mewn wythnos
  • Amser Hyblyg – Dewis y patrwm rydych yn ei weithio
  • Gweithio hybrid – Cyfuniad o weithio yn eich man gwaith arferol a gweithio gartref
  • Oriau cyddwys neu gywasgedig – gweithio’ch oriau dros lai o ddyddiau
  • Rhannu swyddi- dau neu fwy o weithwyr yn rhannu swydd i gwmpasu rôl llawn amser
  • Sifftiau gwahanol – mae gan weithwyr wahanol amseroedd dechrau a gorffen i’w cydweithwyr, i weddu i’w hamgylchiadau
  • Gweithio yn ystod amser tymor – oriau i weddu i rieni sy’n gweithio
  • Oriau blynyddol – oriau a weithiwyd dros flwyddyn, yn aml mewn sifftiau penodol gyda chi’n penderfynu pryd i weithio.

Sut gall gweithio hyblyg fy helpu?

Mae gan weithio hyblyg lawer o fuddion. Os ydych yn chwilio am swydd, gallai gweithio hyblyg ei gwneud yn bosibl i chi ystyried gwahanol fathau o swyddi.

Os ydych eisoes mewn gwaith, gall roi gwell cydbwysedd bywyd gwaith i chi, cynyddu boddhad swydd a’ch helpu chi i fod yn fwy cynhyrchiol yn eich rôl. Gall hefyd eich helpu i reoli unrhyw gyfrifoldebau gofalu a allai fod gennych yn well.

Gwneud cais am weithio hyblyg

Os nad oes gan y swyddi rydych yn gwneud cais amdanynt weithio hyblyg fel rhan o’r disgrifiad swydd, mae gennych yr hawl i wneud cais am weithio’n hyblyg pan fyddwch wedi gweithio i’ch cyflogwr am 26 wythnos neu fwy. Bydd rhai cyflogwyr yn caniatáu i chi wneud cais cyn hyn, felly gwiriwch bolisi eich gweithle.

Rhaid i chi roi eich cais yn ysgrifenedig, a dylai eich cyflogwr siarad â chi cyn gwneud penderfyniad. Mae angen i chi ddweud eich bod yn gwneud ‘cais gweithio hyblyg statudol’ a dylech hefyd gynnwys:

  • y dyddiad rydych yn anfon y cais
  • y newid yr hoffech ei wneud
  • pryd yr hoffech i’r newid ddechrau
  • sut y gallech neu’ch cyflogwr ddelio ag effaith y newid – gallai hefyd fod yn ddefnyddiol nodi unrhyw fuddion y byddai’r newid yn ei gael arnoch chi neu’r cyflogwr
  • dyddiad unrhyw geisiadau gweithio hyblyg blaenorol.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am wneud cais gweithio hyblyg ar wefan acas (gwefan allanaol) gan gynnwys templed llythyr cais.

CYMRYD MOT CANOL OES

Os ydych yn meddwl am opsiynau gweithio hyblyg, defnyddiwch MOT Canol oes digidol DWP i bwyso a mesur eich gwaith, iechyd ac arian gyda chynllunio ar gyfer y dyfodol mewn golwg