Neidio i’r cynnwys

DOD O HYD I WAITH YN 50+ – Beth yw’r opsiynau?

Gŵr oedrannus yn gweithio mewn ffatri ddiwydiannol. Dolenni i Dod o Hyd i Waith yn 50+ - beth yw'r opsiynau?

Ydych chi’n dros 50 oed ac allan o waith? Neu’n meddwl am ddod o hyd i rôl sydd yn fwy addas i’ch ffordd o fyw neu gyfrifoldebau gofalu? Mae ystod o opsiynau gallwch eu hystyried. Dyma rhywfaint o wybodaeth a chyngor i’ch helpu i gychwyn arni.

Cymryd MOT Canol Oes

Gweithio’n hyblyg

  • Os na allwch weithio’n llawn amser, nid yw hynny’n meddwl na allwch weithio o gwbl.
  • Mae nifer o gyflogwyr yn cynnig oriau gwaith hyblyg sy’n cynnwys rhannu swydd ac oriau rhan amser, fel y gallwch weithio ac ennill mewn ffordd sy’n addas i chi. Efallai byddant hefyd yn cynnig y cyfle i weithio o adref neu mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi.
  • Darganfyddwch fwy am y mathau o drefniadau hyblyg sydd ar gael a sut y gallant eich helpu ar ein tudalen gweithio’n hyblyg

Datblygu eich sgiliau

Gallai’r sgiliau a’r profiad rydych chi wedi’u cronni trwy’ch bywyd gwaith fod o werth enfawr i gyflogwyr. Ond efallai yr hoffech adnewyddu neu adeiladu ar rai o’r sgiliau hynny, neu efallai roi cynnig ar rywbeth hollol newydd. Dyma rai opsiynau sydd ar gael i bobl o bob oed.

  • Gall wefan Skills for Life  eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd dysgu a chymwysterau newydd i wella’ch cyfle o ddod o hyd i waith. Mae hyn yn cynnwys pob math o ddysgu o adnewyddiadau byr i bwtcamps sgiliau ar gyfer sectorau penodol, i brentisiaethau lle rydych chi’n dysgu wrth wneud gwaith go iawn.
  • Os ydych yn hawlio budd-daliadau diweithdra ar hyn o bryd, gall eich Anogwr Gwaith gynnig amrywiaeth o gymorth cyflogaeth a sgiliau wedi’u teilwra i chi, fel rhan o 50 PLUS: Choices.
  • Darganfyddwch fwy am gyfleoedd sy’n eich galluogi i weithio wrth hyfforddi ar ein tudalen Sgiliau a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith.

Dychwelyd i’r gwaith

  • Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau gyda’ch chwiliad gwaith, dilynwch ein pedwar cam hawdd i wella’ch cyfle o ddod o hyd i waith. Mae’r rhain yn ymdrin â sut i ddarganfod beth rydych chi’n dda yn ei wneud, i ysgrifennu’ch CV ac ymgeisio am swyddi.
  • Angen diweddaru eich CV neu greu un newydd? Gall ein tudalen CVS a llythyrau eglurhaol helpu.
  • Mae rhai diwydiannau yn recriwtio ar hyn o bryd ac mae mwy o swyddi ar gael gyda nhw nag eraill. Gallwch ddarllen mwy am y rhain ar ein tudalennau sectorau. Mae yna hefyd gwybodaeth i’ch helpu i ddechrau mewn diwydiant nad ydych wedi gweithio ynddo o’r blaen.
  • Defnyddiwch y wefan Dod o hyd i Swydd (gwefan allanol). Gyda Dod o hyd i Swydd gallwch greu proffil, uwchlwytho’ch CV a derbyn rhybuddion e-bost am swyddi newydd a phresennol mewn sector sy’n gweithio i chi.
  • Mae yna ddigon o safleoedd swyddi eraill ar gael hefyd. Ceisiwch chwilio am ‘swyddi’ yn Google neu gwnewch eich chwiliad yn fwy penodol i ddod o hyd i’r swyddi gwag cywir i chi, fel ‘swyddi manwerthu yn Leeds’.

Meddyliwch am waith gwirfoddol