Neidio i’r cynnwys
Collage o ddau ddyn mewn ffatri ddiwydiannol, het galed felen a dynes wrth liniadur gyda phlentyn

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli fod yn borth gwych i yrfa newydd rydych yn angerddol amdani.

Mathau o gyfleoedd

Mae cymaint o gyfleoedd gwirfoddoli a all roi profiad ymarferol i chi mewn llawer o wahanol sectorau fel gofal cymdeithasol, gofal iechyd, y celfyddydau a diwylliant, ysgolion a chadwraeth. Mae angen help gwirfoddolwyr ar lawer o sefydliadau ac elusennau’r GIG hefyd sy’n gwneud cyfraniad enfawr i iechyd a lles y genedl.

Gall gwaith gwirfoddol ganiatáu i chi adeiladu profiad hanfodol ar eich CV, yn ogystal â gwneud rhywbeth cadarnhaol i’ch cymuned.